
2022 Rhif 996 (Cy. 212)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 2) 2022
Gwnaed 26 Medi 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 2) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2022
2 
Daw paragraff 22 o Atodlen 1 (cynllun blynyddol) i’r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2022.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Medi 2022