Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/564 (Cy. 130) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2022 Rhif 993 (Cy. 210)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Gwnaed 26 Medi 2022
Gosodwyd gerbron Senedd  Cymru 28 Medi 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.

Wrth wneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i’r materion yn adran 1A o’r Ddeddf honno a chyn gwneud y Rheoliadau hyn gwnaethant ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a) daw’r rheoliad hwn a rheoliad 3 i rym ar 22 Tachwedd 2022; a
(b) daw rheoliadau 2 a 4 i rym ar 29 Mawrth 2023.
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gofynion), yn Rhan L (arbed tanwydd a phŵer), yn ail golofn cofnod L2 (cynhyrchu trydan ar y safle) hepgorer “Requirement L2 applies only to dwellings.”
Diwygio Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022
3 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 21(1) (darpariaeth drosiannol)—
(a) ar ôl “Rheoliadau hyn” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos mewnosoder “(heblaw am reoliadau 14 a 17)”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “adeilad unigol” mewnosoder “cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym”;
(c) ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—“, neu
(c) pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015 yn unol â’r ddarpariaeth hysbysu berthnasol.”
Darpariaeth Drosiannol
4 

(1) Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 yn gymwys—
(a) pan fo’r gwaith adeiladu ar adeilad penodol wedi cychwyn cyn 29 Mawrth 2023 yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol,
(b) pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig ar adeilad unigol cyn 29 Mawrth 2023 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn o fewn 12 mis gan ddechrau â 29 Mawrth 2023, neu
(c) pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015 yn unol â’r ddarpariaeth hysbysu berthnasol.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” yw rheoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
26 Medi 2022