
2022 Rhif 948 (Cy. 204)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Gwnaed 6 Medi 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Medi 2022
Yn dod i rym 1 Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 38 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag Erthygl 39(7) o’r Rheoliad hwnnw, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol, a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi, cychwyn, dod i ben, cymhwyso a rhychwant
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022 a deuant i ben ar 1 Ebrill 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu o 1 Hydref 2022.
Diwygiadau i Reoliad (EU) Rhif 576/2013
3 

(1) Mae Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodiad 4 (gofynion dilysrwydd ar gyfer prawf titradiad gwrthgorff y gynddaredd)—
(a) ym mhwynt 2(b), ar y diwedd mewnosoder “, except where point 2A applies”;
(b) ar ôl pwynt 2, mewnosoder—“
2A. 
This point applies where, the Welsh Ministers have administered a test which measures a level of antibody to rabies virus in serum of the animal tested equal to or greater than 0.3 EU/ml and using an enzyme linked immunosorbent assay method that meets the validation standards set out in Chapter 1.1.6 of the Manual of Diagnostic Tests and Vaccines for Terrestrial Animals 2022;”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2022