
2022 Rhif 939 (Cy. 203)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
Gwnaed 5 Medi 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Medi 2022
Yn dod i rym 30 Medi 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwant
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ym mharagraff (9)(b), yn lle “diwedd 30 Medi 2022” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007
3 
Yn rheoliad 12 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007, ym mharagraff (a) yn lle “chyn diwedd 30 Medi 2022” rhodder “chyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
4 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”; a
(b) ym mharagraff (2)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
5 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir), yn lle paragraff (4)
 rhodder—“
(4) Nid yw paragraffau (1)(a)(vi) nac (1)(b)(ii) yn gymwys—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn 1 Ionawr 2024; a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad—
(i) yn achos paragraff (1)(a)(vi), o Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu
(ii) yn achos paragraff (1)(b)(ii), o Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013
6 
Yn rheoliad 22 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013, ym mharagraff (1)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
7 
Yn rheoliad 15 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015
8 
Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Mêl (Cymru) 2015, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015
9 
Yn rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016
10 
Yn rheoliad 10 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000
11 
Yn Erthygl 2 (labelu pan na fo gwybodaeth ar gael) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion, ym mharagraffau 3 a 4, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008
12 
Yn Erthygl 30 (wyau a fewnforir) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau, ym mharagraff 3, yn lle’r geiriau o “for a period” hyd at “falls” rhodder “for the period beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011
13 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 7 (cymysgeddau), ym mharagraff 4(b), yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
(3) Yn Atodiad 1 (marchnata)—
(a) yn Rhan A (safon marchnata cyffredinol), ym mhwynt 4(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”; a
(b) yn Rhan B (safonau marchnata penodol), ym mhob un o Rannau 1 i 10, ym mhwynt 6(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012
14 
Yn Erthygl 2 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012 ar safonau marchnata ar gyfer olew olewydd (codeiddio), ym mhwynt (b) o’r trydydd paragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU)  2019/33
15 
Yn Erthygl 46 (dynodiad y potelwr, y cynhyrchydd, y mewnforiwr a’r gwerthwr) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad, ym mharagraff 1, ym mhwyntiau (a) a (d), yn lle “30 September 2022” rhodder “31 December 2023”.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, un o Weinidogion Cymru
5 Medi 2022