
2022 Rhif 913 (Cy. 199)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022
Gwnaed 22 Awst 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru  23 Awst 2022
Yn dod i rym 14 Medi 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1) a (2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022 a deuant i rym ar 14 Medi 2022.
Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002
2 

(1) Mae rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
(3) Ym mharagraff (7)(b) yn lle “(d)” rhodder “(ch)”.
Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002
3 

(1) Mae Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “adolygiad CDU” (“IDP review”) yw’r adolygiad o gynllun datblygu unigol sy’n ofynnol gan adran 23 o Ddeddf 2018;”;“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn Neddf 2018;”;“
 ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018;”;“
 ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
(b) yn y diffiniad o “cynorthwy-ydd cynnal dysgu” yn lle “anghenion addygsol arbennig” rhodder “anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig”;
(c) yn y diffiniad o “gwasanaethau partneriaeth rhieni”—
(i) ar ôl “o dan” mewnosoder “Ran 2 o Ddeddf 2018 neu”, a
(ii) ar ôl “anghenion addysgol arbennig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol”.
(3) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraffau (a), (c), (ch) ac (e) ar ôl “anghenion addysgol arbennig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol”;
(b) yn is-baragraff (b) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac anghenion dysgu ychwanegol”;
(c) yn is-baragraff (c) ar ôl “cyfarfodydd adolygu blynyddol” mewnosoder “a’r adolygiadau CDU,”;
(d) yn is-baragraff (f) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac anghenion dysgu ychwanegol”;
(e) yn is-baragraff (ff) ar ôl “arbennig” mewnosoder “a’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol”.
Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(e), ar ôl “arbennig,” mewnosoder “plant ag anghenion dysgu ychwanegol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018),”.
Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005
5 

(1) Mae Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y lleoedd priodol, mewnosoder—“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”;“
 ystyr “canolfan adnoddau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs resource base”) yw dosbarth neu adran mewn ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;”;
(b) yn y testun Saesneg, ar ddiwedd y diffiniad o “infant school” hepgorer “and”, ac
(c) hepgorer y diffiniad o “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig” ac yn y testun Cymraeg, hepgorer yr “ac” sy’n ei ddilyn.
(3) Yn rheoliad 4(4) yn lle “addysgol arbennig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “dysgu ychwanegol”.
Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012
6 

(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 61(5)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
(3) Yn rheoliad 62(3)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
Rheoliadau Dethol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2017
7 

(1) Mae Rheoliadau Dethol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2)(b), yn y tabl, ar ddiwedd y ddarpariaeth yn y golofn chwith “Section 333(2)(a) of the Education Act 1996” mewnosoder “or Section 91(3) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2022