
2022 Rhif 906 (Cy. 197) (C. 64)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022
Gwnaed 12 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 257(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac adran 38(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Rhagfyr 2022 yw’r diwrnod penodedig i’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022
3 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022
4 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
5 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
6 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022
7 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022
8 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022
9 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
10 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022
11 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022
12 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022
13 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022
14 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
15 
Yn rheoliad 1(1) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022, yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2022