
2022 Rhif 904 (Cy. 196) (C. 63)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (Cychwyn) 2022
Gwnaed 12 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 19(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (Cychwyn) 2022.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Rhagfyr 2022 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ddod i rym.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2022