
2022 Rhif 891 (Cy. 188) (C. 55)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022
Gwnaed 16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
 mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
 ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
 ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
 ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
 mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
 ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012;
 mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
 ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru;
 mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
 mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
(a) y Ddeddf,
(b) rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
(c) unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
(i) darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
(ii) person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
(5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
(a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
(6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
(7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
(a) pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
(b) pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
(8) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—
(a) na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(b) bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.
Ystyr plentyn sydd â datganiad
2 
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “datganiad” os yw P yn blentyn y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas ag ef o dan adran 324 neu 331 o Ddeddf 1996.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022—
(a) adrannau 2 i 4;
(b) adrannau 6 i 14;
(c) adrannau 17 i 36;
(d) adran 38;
(e) adrannau 40 i 44;
(f) adrannau 47 i 49;
(g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h) adran 50(4) a (5);
(i) adrannau 51 i 53;
(j) adran 55;
(k) adran 59;
(l) adrannau 63 i 66;
(m) adrannau 68 a 69;
(n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o) yn yr Atodlen—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii) paragraff 4(2) i 4(6);
(iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn;
(v) paragraff 4(8) a 4(9);
(vi) paragraff 4(10);
(vii) paragraff 4(13) i 4(18);
(viii) paragraff 4(19)(b);
(ix) paragraff 4(20) a 4(21);
(x) paragraff 4(23) i 4(29);
(xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xii) paragraff 7;
(xiii) paragraff 8;
(xiv) paragraff 11(a);
(xv) paragraff 12(a);
(xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii) paragraff 14(2) a (3);
(xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
(xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxii) paragraff 22;
(xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv) paragraff 23(4);
(xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).
Darpariaeth arbed
4 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 15 i 22, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad—
(a) mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
(b) nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Hysbysiad CDU
5 
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
(a) bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
(b) y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
Hysbysiad Dim CDU
6 
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effaith hysbysiad CDU
7 
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
(a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
(b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
(c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effaith hysbysiad Dim CDU
8 
Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
(a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
(b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
(c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiad
9 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac—
(a) sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
(b) sydd o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
10 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiad pan fydd apêl sy’n mynd rhagddi yn dod i ben
11 

(1) Pan na roddir hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn unol ag erthyglau 9 neu 10 oherwydd apêl sy’n mynd rhagddi, mae paragraff (2) yn gymwys.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) ar ôl i’r cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo ddod i ben, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
(b) ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud.
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU
12 

(1) Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
(2) Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a) pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
(b) pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol
13 

(1) Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthyglau 9, 10, 11 neu 12 rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai—
(a) bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,
(b) bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu
(c) bod amgylchiadau eithriadol.
(2) Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3) Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Hysbysiad ADY
14 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
(3) Effaith yr hysbysiad ADY yw—
(a) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
(b) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
(4) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.
(5) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn.
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol
15 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
(i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
(ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c) nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023,
(d) nad yw erthygl 16 yn gymwys iddo, ac
(e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar 31 Awst 2023—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16 

(1)  Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
(i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
(ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2023,
(d) nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023, ac
(e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) (C) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
17 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
(i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
(ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
(c) y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a) y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
(b) oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
18 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
(c) nad yw erthygl 19 yn gymwys iddo, a
(d) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
19 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,
(c) nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, a
(d) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
20 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022, a
(b) y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a) y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
(b) oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Newid mewn amgylchiadau
21 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 y mae ei ddatganiad yn peidio â chael ei gynnal.
(2) Ar y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
22 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022—
(a) sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd ar 1 Medi 2022 yn cynnal y datganiad, a
(b) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Oni bai bod apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn, ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal y datganiad—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Sylw i ddatganiad anghenion addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol
23 
Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i gynnwys y datganiad a gynhaliwyd ar gyfer y plentyn hwnnw yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Galluedd plant
24 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(3) Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) na’r pŵer ym mharagraff (5) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(4) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—
(a) y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2) a 10(2) ac 11;
(b) y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c) y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).
(5) Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yw’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14.
(6) Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(7) Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwys
25 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
(2) Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(3) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11;
(b) y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 12;
(c) y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).
(4) Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 12;
(b) y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 14.
(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(6) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022