
2022 Rhif 832 (Cy. 184)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 19 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym 1 Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(a) oʼr Ddeddf, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Senedd Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(f) oʼr Ddeddf ac feʼi cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiad iʼr gofyniad ynghylch addasrwydd staff
3 
Yn rheoliad 35—
(a) yn lle paragraff (2)(f) rhodder—“
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal,
(ii) â gwasanaeth llety diogel,
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);”;
(b) yn lle paragraff (2)(g) rhodder—“
(g) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal,
(ii) â gwasanaeth llety diogel,
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).”;
(c) ym mharagraff (8A)(a)—
(i) ym mharagraff (i), hepgorer “a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant”;
(ii) ar ôl paragraff (iii) hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2022