
2022 Rhif 83 (Cy. 29)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022
Gwnaed am 2.57 p.m. ar 27 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.45 p.m. ar 27 Ionawr 2022
Yn dod i rym am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) o dan y pennawd “Cam 2”, hepgorer “a Cham 4”;
(ii) hepgorer—“Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau o dan do yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;
(b) pan fo’n ofynnol i bersonau aros o dan do i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.
Cam 4”;
(b) hepgorer paragraff (1A);
(c) hepgorer paragraff (3)(ba);
(d) hepgorer paragraff (4A).
(3) Hepgorer rheoliadau 16ZA ac 16ZB.
(4) Yn rheoliad 16A(1), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) na all y person, am resymau meddygol—
(i) cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig, na
(ii) cymryd prawf cymhwysol.”
(5) Hepgorer Rhan 4B.
(6) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “mynediad iddynt” mewnosoder “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;
(b) hepgorer paragraff (3)(h).
(7) Yn rheoliad 26, hepgorer “, 16ZA(1), 16ZB”.
(8) Yn rheoliad 37, hepgorer paragraff (2).
(9) Hepgorer rheoliad 42A.
(10) Yn Atodlen 5, yng ngholofn 3 o’r tabl ym mharagraff 1, yn lle “Lefel Rhybudd 2” rhodder “Dim lefel rhybudd”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.57 p.m. ar 27 Ionawr 2022