
2022 Rhif 806 (Cy. 182)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 13 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym 5 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2) a (3) a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.
Diwygio’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
2 
Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rhan 1 (Dehongli) o’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 ar ôl “cyngor cymuned” mewnosoder—“
(ca) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1),”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022