
2022 Rhif 805 (Cy. 181)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 13 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym 5 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 49(2) a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau perthnasol y maent yn ystyried eu bod yn briodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.
Diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
2 
Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn erthygl 2 (Dehongli) o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder—“
(ca) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1),”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022