
2022 Rhif 804 (Cy. 180)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022
Gwnaed 13 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym 22 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 22 Gorffennaf 2022.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle’r geiriau “a ddisgrifir yn” rhodder “sy’n dod o fewn”;
(ii) hepgorer y geiriau o “neu unrhyw beiriannau” hyd at y diwedd;
(b) yn lle paragraff (2A) rhodder—“
(2A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2B), (2C) a (2E), y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw, pan fo llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.”;
(c) yn lle paragraff (2B) rhodder—“
(2B) Mae’r ffioedd a bennir o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri, ffrwythau, llysiau neu ddail yn daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw.”;
(d) yn lle paragraff (2C) rhodder—“
(2C) Pan fo llwyth yn cynnwys dau neu ragor o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n dod o fewn un categori a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol neu wiriad adnabod o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o fewn y categori o dan sylw yw—
(a) i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys dau neu ragor o lotiau naill ai o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail—
(i) y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail (yn ôl y digwydd); neu
(ii) pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r lotiau o dan sylw, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd am wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd);
(b) i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys unrhyw blanhigion eraill, unrhyw gynhyrchion planhigion neu unrhyw wrthrychau eraill sy’n tarddu o’r un wlad—
(i) y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o unrhyw un o’r disgrifiadau o dan sylw; neu
(ii) pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd i wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd).”;
(e) hepgorer paragraff (2D);
(f) yn lle paragraff (2E) rhodder—“
(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a fewnforir cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol, mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.”
(g) ar ôl paragraff (2E), mewnosoder—“
(2F) Pan fo arolygydd yn amau bod llwyth o drydedd wlad wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol, y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr y llwyth o drydedd wlad yw £147.35 ar gyfer pob sampl a brofir.
(2G) At ddibenion y rheoliad hwn, y tabl ac Atodlen 2A—
(a) ystyr “dail” yw llysiau, perlysiau a sbeisys, i’r graddau y maent ar ffurf dail gyda neu heb goesynnau neu goesau ynghlwm, a dail rhydd unrhyw blanhigion eraill;
(b) ystyr “llysiau”, ac eithrio yn is-baragraff (a), yw llysiau ac eithrio i’r graddau y maent ar ffurf dail.”;
(h) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “categori”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw grŵp a restrir yng ngholofn 1 mewn print trwm;
(b) ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu neu bla nad yw’n bla cwarantin Prydain Fawr a reoleiddir;
(c) ystyr “disgrifiad”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw’r disgrifiad penodol y pennir ffi mewn cysylltiad ag ef;
(d) ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;
(e) ystyr “y tabl” yw’r tabl yn Atodlen 1;
(f) ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(g) mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.”.
(3) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(4) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(5) Hepgorer Atodlenni 1A a 2.
(6) Yn lle Atodlen 2A, rhodder yr Atodlen 2A a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022
ATODLEN 1
Rheoliad 2(4)
“
ATODLEN 1
Ffioedd arolygu mewnforio
Rheoliad 3(2A) a (2C)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Gwlad tarddiad Ffi: Gwiriad ffisegol (£) Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad   
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, a nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) Unrhyw drydedd wlad 205.04 5.25
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol Unrhyw drydedd wlad 20.50 0.52
Toriadau, eginblanhigion, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn   
Pob genera Unrhyw drydedd wlad 32.15 1.57
Planhigion prennaidd (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer eu plannu   
Pob genera Unrhyw drydedd wlad 32.15 1.57
Planhigion nad ydynt yn brennaidd (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol   
Pob genera Unrhyw drydedd wlad 32.15 1.57
Planhigion dan do   
Pob genera Unrhyw drydedd wlad 32.15 1.57
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn   
Pob genera Unrhyw drydedd wlad 32.15 1.57
Blodau wedi eu torri   
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.) Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.28 0.15
 Colombia neu Ecuador 21.37 2.62
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir 2.13 0.26
Eryngium Tournier ex Linnaeus. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.28 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 4.27 0.52
Lisianthus L. Unrhyw drydedd wlad 4.27 0.52
Rosa L. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir 1.28 0.15
 Canada, India, Mecsico neu UDA 21.37 2.62
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA 2.13 0.26
Solidago L. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.28 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 4.27 0.52
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.28 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.13 0.26
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri)   
Pob genera Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.01 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.69 0.26
Ffrwythau, llysiau, dail   
Momordica L. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.59 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 26.55 2.62
Ocimum L. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.15 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 35.84 2.62
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.) Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.59 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 26.55 2.62
Solanum melongena L. Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.59 0.15
 Twrci 15.93 1.57
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci 2.65 0.26
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 1.59 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.65 0.26
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.15 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 3.58 0.26
Hadau (ar gyfer eu hau), meithriniad meinwe   
Pob genera, ar gyfer treialon neu brofi Unrhyw drydedd wlad 12.81 0.52
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 6.40 0.26
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Unrhyw drydedd wlad 128.13 5.25
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 6.40 0.26
Secale L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 6.40 0.26
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Unrhyw drydedd wlad 128.13 5.25
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Unrhyw drydedd wlad 128.13 5.25
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay 6.40 0.26
Triticum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 6.40 0.26
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 128.13 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 6.40 0.26
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn Unrhyw drydedd wlad 6.40 0.26
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer eu hau)   
Secale L. Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 142.98 5.25
Triticum L. Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 142.98 5.25
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA 142.98 5.25
Cloron tatws   
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd) Unrhyw drydedd wlad 156.69 5.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania 78.34 2.62
 Sbaen 156.69 5.25
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen 4.70 0.15
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder)   
Pob genera Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 3.58 0.15
 Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 5.98 0.26
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth Unrhyw drydedd wlad 5.98 0.26



”
ATODLEN 2
Rheoliad 2(6)
“
ATODLEN 2A
Rhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol
Rheoliad 3(2E)
1. 
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig wedi eu torri.
2. 
Coed Nadolig wedi eu torri.
3. 
Blodau wedi eu torri.
4. 
Ffrwythau.
5. 
Grawn, ac eithrio hadau ar gyfer eu hau.
6. 
Dail.
7. 
Hadau ac eithrio—
(a) hadau—
(i) Allium cepa L.,
(ii) Allium porrum L.,
(iii) Castanea Mill.,
(iv) Capsicum spp. L.,
(v) Helianthus annuus L.,
(vi) Medicago sativa L.,
(vii) Phaseolus cocineus.,
(viii) Phaseolus vulgaris L.,
(ix) Solanum lycopersicum L.,
(x) Solanum tuberosum L. (Hadau tatws gwirioneddol).
(b) hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L.
(c) hadau planhigion olew a ffibr—
(i) Brassica napus L.,
(ii) Brassica rapa L.,
(iii) Sinapis alba L.,
(iv) Glycine max (L.) Merrill,
(v) Linum usitatissimum L.
8. 
Llysiau.”