
2022 Rhif 800 (Cy. 177)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Gwnaed 13 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym 17 Medi 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 81(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol fel sy’n ofynnol gan adran 81(5) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae drafft o’r Gorchymyn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 81(3)(aa) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Medi 2023.
Gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig
2 

(1) Mae’r gyfradd gyflymder a bennir gan adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig) wedi ei gostwng i 20 milltir yr awr.
(2) Yn unol â hynny, mae’r cyfeiriad yn adran 81(1) o’r Ddeddf honno at “30 miles per hour” i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at 20 milltir yr awr.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022