
2022 Rhif 79 (Cy. 28)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed 26 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28 Ionawr 2022
Yn dod i rym 23 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015:
RHAN 1 Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2022.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1
Cyflwyniad
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Dinasyddion Affganistan
Diwygiad i’r Atodlen
4 
Yn yr Atodlen ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
(b) ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—“
(d) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(dd) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(e) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(f) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (e) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
PENNOD 3
Tiriogaethau Dibynnol y Goron
Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)
5 
Hepgorer rheoliad 2(8).
RHAN 3 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 1
Cyflwyniad
6 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Diwygiad i reoliad 3 (dehongli)
7 
Yn rheoliad 3, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—
(a) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(c) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(d) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
Diwygiad i reoliad 6 (myfyrwyr cymwys)
8 
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—“
(10F) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)
9 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)(b)—
(a) yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
RHAN 4 Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1
Cyflwyniad
10 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Dinasyddion Affganistan
Diwygiad i’r Atodlen
11 
Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(f) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(g) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(h) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (g) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
PENNOD 3
Tiriogaethau Dibynnol y Goron
Diwygiad i’r Atodlen
12 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(6)—
(a) yn lle “Yr Alban,” rhodder “Yr Alban neu”;
(b) hepgorer “neu yn yr Ynysoedd”.
RHAN 5 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1
Cyflwyniad
13 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 16 (grant newydd at ffioedd)
14 
Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,395” rhodder “£4,295”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
(c) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,270” rhodder “£2,220”;
(d) ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
Diwygiadau i reoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)
15 
Yn rheoliad 19—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
Diwygiad i reoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)
16 
Yn rheoliad 24(3), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
Diwygiad i reoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed)
17 
Yn rheoliad 26(3), yn lle “£3,190”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£3,262”.
Diwygiadau i reoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)
18 
Yn rheoliad 27—
(a) ym mharagraff (7)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
(b) ym mharagraff (9)(a), yn lle “£138.81” rhodder “£141”.
Diwygiad i reoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni)
19 
Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
Diwygiadau i reoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)
20 
Yn rheoliad 43—
(a) ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,027” rhodder “£6,163”;
(b) ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£10,907” rhodder “£11,152”;
(c) ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
(d) ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
(e) ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,786” rhodder “£7,961”;
(f) ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,457” rhodder “£5,580”;
(g) ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£9,932” rhodder “£10,155”;
(h) ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
(i) ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
(j) ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,213” rhodder “£7,375”.
Diwygiadau i reoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)
21 
Yn rheoliad 45—
(a) ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
(b) ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
(c) ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(d) ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(e) ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
(f) ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
(g) ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
(h) ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(i) ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(j) ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
(k) ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
(l) ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
(m) ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(n) ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(o) ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
(p) ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
(q) ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
(r) ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(s) ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(t) ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(u) ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
(v) ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
(w) ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
(x) ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
(y) ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(z) ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
(aa) ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
(bb) ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(cc) ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(dd) ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
Diwygiadau i reoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm)
22 
Yn rheoliad 50—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “£89” rhodder “£91”;
(b) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£172” rhodder “£176”;
(c) ym mharagraff (1)(c), yn lle “£188” rhodder “£192”;
(d) ym mharagraff (1)(d), yn lle “£188” rhodder “£192”;
(e) ym mharagraff (1)(e), yn lle “£135” rhodder “£138”.
Diwygiadau i reoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)
23 
Yn rheoliad 56—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
(c) ym mharagraff (3)(c), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(d) ym mharagraff (3)(d), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(e) ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
(f) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
(g) ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
(h) ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(i) ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(j) ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
Diwygiad i reoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
24 
Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
Diwygiadau i reoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed)
25 
Yn rheoliad 91(3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”.
Diwygiad i reoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)
26 
Yn rheoliad 92—
(a) ym mharagraff (6)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
(b) ym mharagraff (8)(a), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
Diwygiad i reoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni)
27 
Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
Diwygiad i reoliad 117 (swm y grant)
28 
Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 3
Diwygiad i’r diffiniad “blwyddyn Erasmus”
Diwygiad i reoliad 2 (dehongli)
29 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”, yn lle “a elwir ERASMUS neu yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing,” rhodder “a elwir ERASMUS, yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing neu yn y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu,”.
PENNOD 4
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Diwygiadau i reoliad 2 (dehongli)
30 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchoddedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiadau i reoliadau 4, 81 a 110
31 
Ym mhob un o reoliadau 4(10E)(a), 81(10E)(a) a 110(12E)(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)
32 
Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).
RHAN 6 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
33 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Mewnosod rheoliad newydd 23F (terfynu cymhwystra – dinesydd perthnasol o Affganistan)
34 
Yn rheoliad 12(1), yn lle “23D neu 23E” rhodder “23D, 23E neu 23F”.
35 
Ar ôl rheoliad 23E mewnosoder—“
23F. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii) ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii) ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Diwygiad i reoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)
36 
Yn rheoliad 80—
(a) ar ôl paragraff (2)(b)(ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b) ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”.
Diwygiad i reoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd)
37 
Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
Diwygiadau i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)
38 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA—
(a) yn is-baragraff (4)(b)—
(i) yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
(ii) ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,”;
(b) ar ôl is-baragraff (4)(e) mewnosoder—“
(ea) ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—
(i) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,
(ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,
(iii) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu
(iv) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath,”.
Diwygiadau i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl
39 
Yn Atodlen 4—
(a) ar ôl paragraff 13E mewnosoder—“
13F. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii) mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(b) ar ôl paragraff 14(3)(b)(ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(c) ym mharagraff 14(4), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
Diwygiad i Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge)
40 
Yn Atodlen 5, paragraff 4—
(a) ar ôl is-baragraff (2)(ab) mewnosoder—“
(ac) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b) yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)
41 
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder—“
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” Atodlen 2, paragraff 2ZA”
PENNOD 3
Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser)
42 
Yn rheoliad 55, mae Tabl 7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Categori 1 Byw gartref £8,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £12,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,710
Categori 2 Byw gartref £4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,855”
Diwygiadau i reoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)
43 
Yn rheoliad 56—
(a) mae Tabl 8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £9,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £13,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £10,710”
(b) mae Tabl 8A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,855”
Diwygiadau i reoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig)
44 
Yn rheoliad 57, mae Tabl 9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £91
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £176
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £138”
Diwygiadau i reoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser)
45 
Yn rheoliad 58, mae Tabl 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £6,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
Diwygiadau i reoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)
46 
Yn rheoliad 58A, mae Tabl 10A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £7,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
Diwygiad i reoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl)
47 
Yn rheoliad 63(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodded “£32,546”.
Diwygiad i reoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol)
48 
Yn rheoliad 72, mae Tabl 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £3,262”
Diwygiadau i reoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni)
49 
Yn rheoliad 74, mae Tabl 12 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £1,862”
Diwygiadau i reoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant
50 
Yn rheoliad 76—
(a) mae Tabl 13 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Un plentyn dibynnol £184
Mwy nag un plentyn dibynnol £315”
(b) ym mharagraff (4), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)
51 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 4
Diwygiad i’r diffiniad o “blwyddyn Erasmus”
Diwygiad i Atodlen 1 (dehongli)
52 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—
(a) cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol,
(b) y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing, neu
(c) y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu.”
PENNOD 5
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Diwygiadau i reoliad 23E (personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben)
53 
Yn rheoliad 23E(a)—
(a) yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiadau i Atodlen 1 (dehongli)
54 
Yn Atodlen 1, paragraff 6—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiad i Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)
55 
Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).
Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)
56 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio)
57 
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.
PENNOD 6
Grant Myfyriwr Ôl-raddedig Anabl – diwygiadau sy’n ymwneud â gwaith gofal cymdeithasol
58 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2, ar ôl “Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016” mewnosoder “pan fo’r cwrs ôl-raddedig dynodedig yn dechrau cyn 1 Awst 2022”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2022