
2022 Rhif 774 (Cy. 169) (C. 47)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022
Gwnaed am 3.40 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 170(4)(b)(vi) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Enwi
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022.
Darpariaeth sy’n dod i rym ar 28 Gorffennaf 2022
2 
Daw adran 48 (yswiriant: dileu gofynion) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 28 Gorffennaf 2022.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Am 3.40 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022