
2022 Rhif 722 (Cy. 160)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022
Gwnaed 28 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 30 Mehefin 2022
Yn dod i rym 21 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a pharagraff 11 o Atodlen 1 iddi, ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Gorffennaf 2022.
Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992
2 
Yn rheoliad 5 (dosbarthau rhagnodedig) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 ar y diwedd mewnosoder—“
Homes for Ukraine Scheme
(8) Class H: a person who holds permission to enter or to stay in the United Kingdom granted under the Homes for Ukraine Sponsorship Scheme route in Appendix Ukraine Scheme to the Immigration Rules.”.
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992
3 

(1) Mae’r diwygiadau a wnaed i Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) gan erthygl 3 o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Diwygio) (Lloegr) 2022 yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau bilio yng Nghymru.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a wneir i Orchymyn 1992 gan y Rheoliadau hyn.
(3) Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(4) Yn erthygl 2(3A) ar ôl “dwelling” mewnosoder “in England”.
(5) Yn erthygl 3, yn Nosbarth X, yn lle paragraff (2)(b) rhodder—“
(b) “relevant person” means—
(i) a person falling within paragraphs (i), (ii) or (iii) of paragraph (2)(a) of Class N above; or
(ii) a relevant Ukrainian person; and”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2022