
2022 Rhif 715 (Cy. 158)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2022
Gwnaed 28 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 29 Mehefin 2022
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2022.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (gwasanaethau sydd wedi eu hesemptio rhag ffioedd)—
(a) daw’r testun presennol yn baragraff (1);
(b) ar ôl y paragraff newydd (1), mewnosoder—“
(2) Services provided to an overseas visitor for the treatment of monkeypox on or after 23 May 2022 but before this paragraph came into force are to be treated for the purposes of these Regulations as if, at the time that the services were provided, they were relevant services in respect of which no charge may be made or recovered.
(3) Where paragraph (2) applies, a Local Health Board or NHS Trust—
(a) yet to make charges under regulation 2 (making and recovery of charges) must not make the charges;
(b) that made charges under regulation 2 but has yet to recover the charges, must not recover the charges; or
(c) that made charges under regulation 2 and received payment in respect of the charges, must repay any sum paid in respect of the charges in accordance with regulation 8 (repayments).”.
(3) Yn Rhan 4 o Atodlen 1 (clefydau na chodir ffi am eu trin), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder “Monkeypox”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2022