
2022 Rhif 70 (Cy. 26)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022
Gwnaed 24 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 27 Ionawr 2022
Yn dod i rym 15 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2022.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys mewn perthynas â—
(i) cychod pysgota Cymreig ar y môr, ym mha le bynnag y bônt;
(ii) cychod pysgota perthnasol sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw llestr bysgota o lai na 12 metr o hyd sydd—
(a) wedi ei chofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 ac y mae ei chofnod yn y gofrestr honno yn pennu porthladd yng Nghymru y mae’r llestr i’w thrin fel pe bai yn perthyn iddo; a
(b) wedi ei thrwyddedu o dan adran 15 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020;
 ystyr “cwch pysgota perthnasol” (“relevant fishing boat”) yw llestr bysgota o lai na 12 metr o hyd sydd wedi ei thrwyddedu o dan adran 15 neu adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020, ac eithrio cwch pysgota Cymreig;
 ystyr “dyfais fonitro” (“monitoring device”) yw dyfais sydd â rhif adnabod unigryw ac sy’n gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol bob 30 eiliad;
 ystyr “gweithrediadau pysgota” (“fishing operations”) yw dal pysgod ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n ategol i hynny;
 ystyr “hyd” (“length”) mewn perthynas â chwch pysgota, yw’r hyd a gyfrifir yn unol â’r rheolau a bennir yn Erthygl 2(1) o Reoliad (EU) 2017/1130 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2017 sy’n diffinio nodweddion llestrau pysgota;
 ystyr “IRCS” (“IRCS”) yw arwydd galwad radio rhyngwladol y cwch pysgota;
 ystyr “y person sydd â gofal” (“the person in charge”) yw perchennog, meistr neu siartrwr, os oes un, y cwch pysgota;
 ystyr “Rhif Cofrestr Fflyd” (“Fleet Register Number”) yw—
(a) y rhif cofrestr fflyd y Deyrnas Unedig a aseiniwyd i’r llestr gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y cyfeirir ato yn Erthygl 8 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/218; neu
(b) y rhif cofrestr fflyd gyffredin a aseiniwyd i’r llestr gan Aelod-wladwriaeth fel y cyfeirir ato yn Erthygl 8 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/218 ar gofrestr fflyd bysgota’r Undeb;
 ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“the required information”) yw’r wybodaeth a bennir yn erthygl 4.
Rheoleiddio gweithrediadau pysgota
3 

(1) Ni chaniateir i’r cwch pysgota ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai—
(a) bod dyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(b) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ynghylch—
(i) rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(ii) enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(iii) Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; ac
(c) bod y ddyfais fonitro yn trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud.
(2) Pan fo’r cwch pysgota yn cael ei ddefnyddio yn groes i baragraff (1), mae’r person sydd â gofal amdano yn euog o drosedd.
Yr Wybodaeth Ofynnol
4 
Yr wybodaeth ofynnol yw—
(a) rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b) safle daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred ar System Geodetig y Byd 1984, gyda chyfeiliornad safle o lai na 10 metr;
(c) dyddiad ac amser, wedi eu mynegi mewn Amser Cyffredinol Cyd-drefnedig, unrhyw safle daearyddol y cwch hwnnw; a
(d) cyflymder a chwrs y cwch hwnnw ar yr adeg honno.
Cyfrifoldebau parhaus ynghylch y dyfeisiau monitro
5 
Rhaid i’r person sydd â gofal am y cwch pysgota wneud pob ymdrech resymol i sicrhau—
(a) nad oes modd gwrthwneud y ddyfais fonitro â llaw;
(b) nad yw’r ddyfais fonitro yn cael ei dinistrio, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, neu nas amherir â hi fel arall;
(c) nad yw unrhyw antena sy’n gysylltiedig â’r ddyfais fonitro yn cael ei rwystro mewn unrhyw ffordd; a
(d) nad yw’r cyflenwad pŵer i’r ddyfais fonitro yn cael ei dorri.
Methiant Dyfais Fonitro
6 

(1) Os nad yw’r ddyfais fonitro ar fwrdd y cwch pysgota yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol, rhaid i’r person sydd â gofal, ar yr adeg y mae’n gwybod, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y ddyfais wedi stopio trosglwyddo’r wybodaeth—
(a) hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’r ddyfais fonitro yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol; a
(b) sicrhau nad yw’r cwch pysgota yn ymgymryd ag unrhyw weithrediadau pysgota pellach hyd nes y gall y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth berthnasol yn unol ag erthygl 3(1)(c) a bod hysbysiad ynghylch hynny wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys—
(a) rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b) enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(c) Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; a
(d) pan fo hynny’n hysbys i’r person sydd â gofal—
(i) yr amser pryd stopiodd y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol;
(ii) y rheswm neu’r rhesymau dros fethiant y ddyfais fonitro i weithio’n gywir;
(iii) pa elfen o’r wybodaeth ofynnol nad yw’r ddyfais fonitro berthnasol yn gallu ei throsglwyddo.
Lesley Griffiths,
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2022