
2022 Rhif 676 (Cy. 153)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022
Gwnaed 15 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Mehefin 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 69(1), (6) a (7) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—
(a) ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir,
(c) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,
(d) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion,
(e) ar gyfer plant ym mlynyddoedd 1 i 6 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt pan fo’r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu cwricwlwm sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021,
(f) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac
(g) ar gyfer plant ym mlwyddyn 7 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt pan fo’r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu cwricwlwm sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer plant ym mlwyddyn 9 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer plant ym mlwyddyn 10 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(6) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer plant ym mlwyddyn 11 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir yng Nghymru, a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTAS curriculum”) yw’r cwricwlwm a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 54 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);
 ystyr “cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit curriculum”) yw’r cwricwlwm ar gyfer yr uned cyfeirio disgyblion y cyfeirir ato yn adran 50 o Ddeddf 2021 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 51 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);
 ystyr “cwricwlwm ysgol a gynhelir” (“maintained school curriculum”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 o Ddeddf 2021 gan bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15(1) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
 ystyr “trefniadau asesu” (“assessment arrangements”) yw’r trefniadau asesu a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
 mae i “yn ardal” awdurdod lleol yr un ystyr ag “in the area” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;
 mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn hwnnw yn ardal yr awdurdod.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran plentyn—
(a) pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
(b) pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm ysgol a gynhelir ym mhob ysgol,
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob ysgol, ac
(c) y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â phennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 12 o Ddeddf 2021 rhaid i bennaeth yr ysgol ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os caiff y cwricwlwm ei adolygu a’i ddiwygio o dan adran 12 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(8) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(9) Nid yw paragraff (8)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(10) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (8)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion ym mhob uned cyfeirio disgyblion,
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob uned cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob uned cyfeirio disgyblion, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal 1 o’r unedau cyfeirio disgyblion.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os caiff y cwricwlwm ei adolygu a’i ddiwygio o dan adran 51 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(7) Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2021 rhaid i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned cyfeirio disgyblion ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.
(8) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun (neu gynllun diwygiedig) yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(9) Nid yw paragraff (8)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(10) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (8)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal uned cyfeirio disgyblion y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion yn yr ysgol a’r uned cyfeirio disgyblion,
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr ysgol a’r uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol neu uned cyfeirio disgyblion y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, ac
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac mewn uned cyfeirio disgyblion neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os caiff y cwricwlwm ei adolygu o dan adran 12 neu 51 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun (neu gynllun diwygiedig) yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(8) Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 12 o Ddeddf 2021 rhaid i bennaeth yr ysgol ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.
(9) Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2021 rhaid i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned cyfeirio disgyblion ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.
(10) Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(11) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,
(b) â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, ac
(c) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol
6 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD yn yr ysgolion, a
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob ysgol.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,
(b) â pherchnogion yr ysgolion annibynnol, ac
(c) ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion ynddo.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac mewn ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(8) Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(9) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,
(b) â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol,
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a
(d) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD yn yr uned cyfeirio disgyblion ac yn yr ysgol, a
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr uned cyfeirio disgyblion ac yn yr ysgol.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion,
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal 1 o’r unedau cyfeirio disgyblion,
(c) â pherchnogion yr ysgolion annibynnol, a
(d) ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion annibynnol ynddo.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn uned cyfeirio disgyblion ac mewn ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(8) Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(9) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion,
(b) â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol,
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a
(d) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—
(a) sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD ym mhob ysgol annibynnol, a
(b) sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr ysgolion.
(3) Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion annibynnol ynddo.
(4) Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—
(a) os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu
(b) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—
(a) i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a
(b) i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.
(8) Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(9) Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—
(a) â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a
(b) ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2022