
2022 Rhif 670 (Cy. 150)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022
Gwnaed 15 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Mehefin 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6))
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 42(1), (2) a (4) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—
(a) ar gyfer disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer,
(b) ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,
(c) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir, a
(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir, a
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn ysgol a gynhelir.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir.
(6) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg lawnamser neu ran-amser sy’n addas i blant neu ddisgyblion nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol a ddarperir—
(a) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
(b) gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
 mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;
 mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf 1996;
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5)(a) a (b) o Ddeddf 2021;
 mae i “cyfnod gweithredol” (“operative period”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 43 o Ddeddf 2021;
 mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1) o Ddeddf 2021;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” (“pupil”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 26(4)(a) o Ddeddf 2021;
 ystyr “dyddiad gweithredol” (“operative date”) yw’r dyddiad y daw penderfyniad i rym;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 ystyr “penderfyniad” (“determination”) yw penderfyniad a wneir o dan adran 42(1) neu (2) o Ddeddf 2021;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir ac ysgol feithrin a gynhelir, y pennaeth, a
(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, y darparwr;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion Unigol) (Cymru) 1999 wedi eu dirymu o 1 Medi 2026.
Achosion ac amgylchiadau pan ganiateir gwneud penderfyniadau
4 

(1) Ni chaiff person perthnasol ond wneud penderfyniad mewn cysylltiad â disgybl neu blentyn os yw wedi ei fodloni—
(a) nad yw am y tro yn briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw neu’r plentyn hwnnw, a
(b) bod yr amgylchiadau sy’n arwain at y farn honno yn debygol o newid yn sylweddol fel y bydd, o fewn 6 mis i’r dyddiad gweithredol, yn briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw neu’r plentyn hwnnw.
(2) Ni chaiff person perthnasol ond wneud penderfyniad os yw wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a fydd yn cael ei weithredu ar gyfer y disgybl neu’r plentyn o ganlyniad i’r penderfyniad—
(a) yn galluogi’r disgybl neu’r plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b) yn sicrhau addysgu a dysgu sy’n cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
(c) yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neu’r plentyn,
(d) yn ystyried y canlynol o ran y disgybl neu’r plentyn—
(i) ei anghenion dysgu ychwanegol, neu
(ii) ei anghenion addysgol arbennig ar gyfer disgybl neu blentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 yn parhau i fod yn gymwys iddo, ac
(e) yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i’r disgybl neu’r plentyn.
(3) Ni chaiff person perthnasol wneud penderfyniad ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig, neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.
Cyfnod gweithredol
5 

(1) Rhaid i berson perthnasol benderfynu mewn cysylltiad ag unrhyw ddisgybl cofrestredig ar ddyddiad gweithredol a chyfnod gweithredol y penderfyniad hwnnw.
(2) Ni chaniateir pennu felly ddyddiad gweithredol sy’n llai nag 1 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir y penderfyniad oni bai bod y person perthnasol wedi ei fodloni ei bod yn hanfodol er budd y disgybl neu am resymau addysgol eraill y dylai’r penderfyniad ddod i rym yn gynharach.
(3) Y cyfnod gweithredol hwyaf y caniateir ei bennu mewn penderfyniad yw naill ai—
(a) cyfnod penodol nad yw’n hwy na 6 mis, neu
(b) cyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben gan y person perthnasol heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.
Amrywio penderfyniadau
6 

(1) Caiff person perthnasol amrywio unrhyw benderfyniad, ac eithrio mewn perthynas â’i gyfnod gweithredol, os yw wedi ei fodloni nad yw unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo yn briodol mwyach ar gyfer y disgybl hwnnw neu’r plentyn hwnnw.
(2) Ni ddaw amrywiad i benderfyniad i rym tan o leiaf 1 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad amrywio oni bai bod y person perthnasol wedi ei fodloni ei bod yn hanfodol er budd y disgybl neu’r plentyn neu am resymau addysgol eraill iddo gael ei ddwyn i rym yn gynharach.
Dirymu penderfyniadau
7 
Pan fo person perthnasol yn ystyried nad yw penderfyniad a wnaed yn briodol mwyach ar gyfer y disgybl neu’r plentyn, caiff y person perthnasol, drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu’r penderfyniad hwnnw.
Penderfyniadau pellach gan benaethiaid
8 

(1) Caiff pennaeth sydd wedi gwneud penderfyniad mewn cysylltiad â disgybl o dan reoliad 4 wneud penderfyniad pellach mewn cysylltiad â’r disgybl hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(a) nad yw’n briodol o hyd am y tro weithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw, a
(b) bod yr amgylchiadau sy’n arwain at y farn honno yn debygol o newid yn sylweddol fel y bydd, o fewn 3 mis i’r dyddiad gweithredol, yn briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw.
(2) Rhaid i gyfnod gweithredol y penderfyniad pellach ddechrau—
(a) yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol y penderfyniad cyntaf, yn ddarostyngedig i gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan 3 aelod o’r corff llywodraethu, a
(b) yn union ar ôl i benderfyniad pellach a wneir o dan baragraff (1) ddod i ben, yn ddarostyngedig i gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan 3 aelod o’r corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
(3) Caiff pennaeth wneud penderfyniad pellach yn seiliedig ar resymau gwahanol i’r rhai y gwnaed y penderfyniad cyntaf yn seiliedig arnynt os yw’r pennaeth yn cael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan y canlynol—
(a) 3 aelod o’r corff llywodraethu, a
(b) yr awdurdod lleol.
Penderfyniadau pellach gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
9 

(1) Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sydd wedi gwneud penderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn wneud penderfyniad pellach mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(a) nad yw’n briodol o hyd am y tro weithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y plentyn hwnnw, a
(b) bod yr amgylchiadau sy’n arwain at y farn honno yn debygol o newid yn sylweddol fel y bydd, o fewn 3 mis i’r dyddiad gweithredol, yn briodol gweithredu’r cwricwlwm perthnasol ar gyfer y plentyn hwnnw.
(2) Rhaid i gyfnod gweithredol y penderfyniad pellach ddechrau—
(a) yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol y penderfyniad cyntaf, a
(b) yn union ar ôl i benderfyniad pellach a wneir o dan baragraff (1) ddod i ben.
(3) Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir wneud penderfyniad pellach heb fod yn hwy na 3 mis yn seiliedig ar resymau gwahanol i’r rhai y gwnaed y penderfyniad cyntaf yn seiliedig arnynt.
Ceisiadau gan ddisgyblion neu rieni
10 

(1) Caiff disgybl, neu riant disgybl, ar unrhyw adeg ofyn i’r pennaeth wneud penderfyniad (neu benderfyniad pellach), neu ddirymu neu amrywio penderfyniad sydd mewn grym ar hyn o bryd.
(2) Caiff rhiant plentyn ar unrhyw adeg ofyn i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir wneud penderfyniad (neu benderfyniad pellach), neu ddirymu neu amrywio penderfyniad sydd mewn grym ar hyn o bryd.
(3) Caniateir gwneud cais ar lafar neu’n ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros ei wneud.
(4) Nid yw’n ofynnol i’r pennaeth na’r darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ystyried cais i ddirymu neu amrywio penderfyniad sydd mewn grym ar hyn o bryd fwy nag unwaith yn ystod pob un o’r cyfnodau a ganlyn—
(a) cyfnod gweithredol y penderfyniad hwnnw, a
(b) cyfnod gweithredol unrhyw benderfyniad pellach neu benderfyniadau a wneir o dan reoliad 8 neu 9.
Ceisiadau gan ddisgyblion neu rieni: Hysbysu
11 
Rhaid i’r person perthnasol, o fewn 2 wythnos i gael cais o dan reoliad 10(1) neu (2), wneud, amrywio neu ddirymu’r penderfyniad neu roi hysbysiad ei fod wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2022