
2022 No. 657 (Cy. 147)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed am 11.55 a.m. ar 14 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 14 Mehefin 2022
Yn dod i rym 15 Mehefin 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13, 45C(1), (2), (3)(a) a (b), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o’r farn nad yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf honno sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mehefin 2022.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (clefydau a syndromau hysbysadwy), ar ôl “Botwliaeth” mewnosoder “Brech y mwncïod”.
(3) Yn Atodlen 2 (cyfryngau achosol), ar ôl “Escherichia coli vero-cytotocsigenig (gan gynnwys E.coli O157)” mewnosoder “Firws brech y mwncïod”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 11.55 a.m. ar 14 Mehefin 2022