
2022 Rhif 656 (Cy. 146)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 10 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 14 Mehefin 2022
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537(A)(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007, yn rheoliad 5, ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder—“
(ff) Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Mehefin 2022