
2022 Rhif 652 (Cy. 144) (C. 36)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022
Gwnaed 13 Mehefin 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(2), (3) a (4) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
(i) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
(ii) gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
 mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2 o Ddeddf 2018;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2018;
 mae i “darpariaeth anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs provision” yn adran 312(4) o Ddeddf 1996;
 mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(2)(a) o Ddeddf 2021;
 ystyr “datganiad anghenion addysgol arbennig” (“statement of special educational needs”) yw datganiad o fewn ystyr adran 324 o Ddeddf 1996;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—
(a) ysgol a gynhelir,
(b) darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
(c) uned cyfeirio disgyblion, a
(d) darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 79(1)(a) a (b) o Ddeddf 2021.
Darpariaeth drosiannol
2 
Hyd nes bod Rhan 4 o Ddeddf 1996 wedi ei diddymu gan Ddeddf 2018, mae cyfeiriadau yn Rhan 2 o Ddeddf 2021—
(a) at “darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “darpariaeth addysgol arbennig”;
(b) at “anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “anghenion addysgol arbennig”; ac
(c) at “cynllun datblygu unigol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “datganiad o anghenion addysgol arbennig”.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Mehefin 2022: yn rhannol
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 14 Mehefin 2022—
(a) adrannau 42 a 43 at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 42, a
(b) adran 69 at ddiben gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022: yn llawn
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2022—
(a) adrannau 6 i 8 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(b) adrannau 42 a 43 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(c) adrannau 56 a 57 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(d) adrannau 63 i 67,
(e) adran 69 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac
(f) adrannau 70 a 71.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022: yn rhannol
5 

(1) Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a) y darperir addysg feithrin ar ei gyfer,
(b) mewn blwyddyn derbyn,
(c) ym mlynyddoedd 1 i 6, a
(d) ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny a’r unedau cyfeirio disgyblion hynny a nodir yn yr Atodlen.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b) adrannau 25 i 29,
(c) adrannau 34 i 41,
(d) adrannau 44 i 55, ac
(e) Atodlen 1.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2023: yn rhannol
6 

(1) Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2023 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a) ym mlwyddyn 7 ar gyfer pob lleoliad arall nad yw wedi ei restru yn yr Atodlen (Rhestr Blwyddyn 7), a
(b) ym mlwyddyn 8.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b) adrannau 25 i 29,
(c) adrannau 34 i 41,
(d) adrannau 44 i 55, ac
(e) Atodlen 1.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2024: yn rhannol
7 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 9—
(a) adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b) adrannau 25 i 29,
(c) adrannau 34 i 41,
(d) adran 68,
(e) adrannau 44 i 55, ac
(f) Atodlen 1.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2025: yn rhannol
8 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 10—
(a) adrannau 9 i 41,
(b) adrannau 44 i 55, ac
(c) Atodlen 1.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2026: yn llawn
9 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2026 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adrannau 9 i 41,
(b) adrannau 44 i 55,
(c) adrannau 58 i 62,
(d) adran 68, ac
(e) Atodlen 1.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Mehefin 2022
YR ATODLEN
Rhestr Blwyddyn 7
erthygl 5
1 
Yr ysgolion a’r unedau cyfeirio disgyblion y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) o’r Gorchymyn hwn yw—

Enw’r Ysgol a’r Uned Cyfeirio Disgyblion Rhif yr Ysgol a Rhif yr Uned Cyfeirio Disgyblion
Cyngor Bro Morgannwg
Ysgol Llanilltud Fawr 6734060
Ysgol Stanwell 6735400
Ysgol Uwchradd Gatholig Richard Gwyn Sant 6734612
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm 6777011
Ysgol Gyfun Tredegar 6774061
Ysgol Sylfaenol Brynmawr 6775401
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Canolfan Ddysgu Glanynant 6761104
Lewis Girls’ School 6764077
Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod 6767011
Ysgol Gyfun Gy6munedol Rhisga 6764068
Ysgol Gyfun Heolddu 6764073
Ysgol Gymunedol Sant Cenydd 6764065
Ysgol Idris Davies 3-18 6765500
Ysgol Lewis Pengam 6764075
Ysgol Trecelyn 6764031
Ysgol Uwchradd Bedwas 6764093
Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd
Yr Ysgol John Frost 6804020
Ysgol Bassaleg 6804030
Ysgol Bryn Derw 6807004
Ysgol Gyfun Caerllion 6804059
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 6804060
Ysgol Maes Ebbw 6807002
Ysgol Sant Julian 6804003
Ysgol Uwchradd Casnewydd 6804025
Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant 6804602
Ysgol Uwchradd Llysweri 6804026
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Canolfan Addysg Conwy 6621109
Ysgol Aberconwy 6624023
Ysgol Dyffryn Conwy 6624035
Ysgol Eirias 6625402
Ysgol John Bright 6624022
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ysgol Uwchradd Afon Taf 6754011
Ysgol Uwchradd Cyfarthfa 6754013
Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley 6754600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Coleg Cymunedol y Dderwen 6724086
Ysgol Bryn Castell 6727012
Ysgol Brynteg 6724078
Ysgol Gyfun Cynffig 6724059
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd 6724085
Ysgol Gyfun Pencoed 6724076
Ysgol Heronsbridge 6727003
Ysgol Maesteg 6724071
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Canolfan Addysg Tŷ Gwyn 6741106
Ysgol Garth Olwg 6745504
Ysgol Gatholig Cardinal Newman 6744602
Ysgol Gyfun Bryn Celynnog 6744019
Ysgol Gyfun Rhydywaun 6744105
Ysgol Gymunedol Tonyrefail 6745503
Ysgol Hen Felin 6747011
Ysgol Arbennig Park Lane 6747008
Ysgol Llanhari 6745500
Ysgol Maesgwyn 6747006
Ysgol Y Pant 6744096
Ysgol Uwchradd Pontypridd 6744022
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen 6781100
Ysgol Abersychan 6784070
Ysgol Croesyceiliog 6784051
Ysgol Crownbridge 6787012
Ysgol Gorllewin Mynwy 6784072
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Ysgol Gyfun Cefn Saeson 6714064
Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
Ysgol Arbennig Greenhill 6817001
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr 6814072
Ysgol Gyfun Radur 6814070
Ysgol Uwchradd Caerdydd 6814039
Ysgol Uwchradd Cathays 6814054
Ysgol Uwchradd y Dwyrain 6814076
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf 6814608
Ysgol Uwchradd Fitzalan 6814042
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant 6814600
Ysgol Uwchradd Llanishen 6814051
Ysgol Uwchradd Willows 6814041
Cyngor Gwynedd
Ysgol Bro Idris 6615500
Ysgol Brynrefail 6614004
Ysgol Eifionydd 6614009
Ysgol Friars 6614036
Ysgol Godre’r Berwyn 6615501
Ysgol y Moelwyn 6614031
Cyngor Sir Caerfyrddin
Ysgol Bryngwyn 6694054
Ysgol Glan y Môr 6694053
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin 6694056
Ysgol Gyfun y Strade 6694052
Cyngor Sir Ceredigion
Ysgol Henry Richard 6675501
Cyngor Sir Ddinbych
Ysgol Uwchradd Glan Clwyd 6634020
Cyngor Sir Fynwy
Ysgol Brenin Harri’r VIII 6794064
Ysgol Cas-gwent 6794065
Ysgol Cil-y-Coed 6794066
Ysgol Gyfun Trefynwy 6794060
Cyngor Sir Penfro
Ysgol Bro Preseli 6684064
Ysgol Caer Elen 6685500
Cyngor Sir Powys
Ysgol Bro Hyddgen 6665500
Ysgol Llanfyllin 6665501
Ysgol Maesydderwen 6664021
Ysgol Penmaes 6667004
Ysgol Uwchradd Crucywel 6664024
Ysgol Uwchradd Llanidloes 6664002
Dinas a Sir Abertawe
Ysgol yr Esgob Gore 6704044
Ysgol Gatholig Esgob Vaughan 6704600
Ysgol Gyfun Gŵyr 6704074
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe 6704078
Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt 6704069
Ysgol Gyfun Pontarddulais 6704072
Ysgol Gyfun Treforys 6704033
Ysgol Gymunedol Dylan Thomas 6704076
Ysgol Pen y Bryn 6707000