
2022 Rhif 61 (Cy. 23)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022
Gwnaed 21 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 24 Ionawr 2022
Yn dod i rym 23 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022 a deuant i rym ar 23 Chwefror 2022.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2), hepgorer “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”;
(b) hepgorer paragraffau (2A) a (2B);
(c) ar y diwedd, mewnosoder—“
(8) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i’w gymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2021–2022.”
(3) Hepgorer rheoliad 6.
Dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 wedi eu dirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2022