
2022 Rhif 6 (Cy. 4)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022
Gwnaed 7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94(1), (2)(b) a (3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
Dehongli
2 

(1) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfnod meddiannaeth” (“period of occupation”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r cyfnod—
(a) sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract, a
(b) sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 7.
Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio
3 
Wrth benderfynu at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, rhaid rhoi sylw i bresenoldeb neu fodolaeth, neu bresenoldeb tebygol neu fodolaeth debygol, y materion a’r amgylchiadau a restrir yn yr Atodlen.
Contractau meddiannaeth y mae rheoliadau 5 i 8 yn gymwys iddynt
4 
Nid yw rheoliadau 5 i 8 yn gymwys ond mewn perthynas ag —
(a) contract diogel,
(b) contract safonol cyfnodol, ac
(c) contract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd,sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract.
Larymau mwg a larymau carbon monocsid
5 

(1) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—
(a) mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,
(b) wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac
(c) wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.
(2) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.
(3) Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan baragraff (1) neu (2).
(4) At ddibenion paragraff (3), mae landlord sydd heb gydymffurfio ag—
(a) paragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm mwg (neu larymau mwg) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw;
(b) paragraff (2) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm carbon monocsid (neu larymau carbon monocsid) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfarpar nwy” (“gas appliance”) yw cyfarpar a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gan ddefnyddiwr nwy ar gyfer gwresogi, goleuo, coginio neu at ddibenion eraill y gellir defnyddio nwy ar eu cyfer, ond nid yw’n cynnwys—
(a) cyfarpar cludadwy neu symudol a gyflenwir â nwy o silindr, na’r silindr, y pibellau a’r ffitiadau eraill a ddefnyddir i gyflenwi nwy i’r cyfarpar hwnnw, neu
(b) cyfarpar y mae gan ddeiliad y contract yr hawl i fynd ag ef o’r annedd o dan delerau’r contract meddiannaeth;
 mae i “nwy” yr ystyr a roddir i “gas” gan adran 48(1) o Ddeddf Nwy 1986;
 mae “ystafell” (“room”) yn cynnwys cyntedd, pen grisiau neu goridor.
Diogelwch trydanol
6 

(1) Rhaid i’r landlord sicrhau bod adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mewn cysylltiad â’r annedd yn ystod pob cyfnod meddiannaeth.
(2) Mae adroddiad ar gyflwr trydanol—
(a) yn adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau archwiliad diogelwch trydanol a gynhaliwyd gan berson cymwysedig;
(b) yn ddilys—
(i) hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cynhaliwyd yr archwiliad diogelwch trydanol (“y dyddiad archwilio”), neu
(ii) os yw’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn nodi y dylid cynnal yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf lai na 5 mlynedd ar ôl y dyddiad archwilio, hyd at ddiwedd y dydd erbyn pryd y dylid cynnal, yn unol â’r adroddiad, yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf.
(3) Rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu—
(a) copi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar, a
(b) pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio wedi ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad hwnnw yn ymwneud ag ef (a chyn y dyddiad meddiannu), gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.
(4) Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.
(5) Pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.
(6) Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi ar adeg pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.
(7) At ddibenion paragraff (6), mae landlord—
(a) nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw ar unrhyw adeg—
(i) pan fo’r landlord wedi cael adroddiad ar gyflwr trydanol, a
(ii) pan fo’r adroddiad hwnnw yn ddilys.
(b) nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(a) neu (4) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mwyaf diweddar;
(c) nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(b) neu (5) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.
(8) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “archwiliad diogelwch trydanol” (“electrical safety inspection”) yw archwilio a phrofi pob gosodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;
 ystyr “cadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith” (“written confirmation of work”), mewn perthynas â gwaith ymchwilio neu atgyweirio, yw copi o gadarnhad ysgrifenedig gan berson cymwysedig bod y gwaith dan sylw wedi ei wneud;
 ystyr “gosodiad gwasanaeth trydanol” (“electrical service installation”) yw gosodiad ar gyfer cyflenwi trydan; ac mae cyfeiriadau at osodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn cynnwys, pan fo’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, osodiad gwasanaeth trydanol sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—
(a) yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu
(b) yn eiddo i’r landlord neu sydd o dan reolaeth y landlord;
 ystyr “person cymwysedig” (“qualified person”) yw person sy’n gymwys i wneud y gwaith arolygu a phrofi ar osodiad gwasanaeth trydanol, ac unrhyw waith archwilio neu waith atgyweirio pellach, yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;
 ystyr “safonau diogelwch trydanol” (“electrical safety standards”) yw’r safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel BS 7671:2018+A1:2020.
Cymhwyso i gontractau wedi eu trosi
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi.
(2) Yn rheoliadau 5(1) a 6(1), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—
(a) sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi, a
(b) sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.
(3) Yn rheoliad 5(2), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—
(a) sy’n dechrau â’r dyddiad trosi, a
(b) sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.
(4) Yn rheoliad 6(3), ystyr “dyddiad meddiannu” yw’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi.
(5) Mae rheoliad 6 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—“
(4) Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl i ddeiliad y contract gael adroddiad yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (3) (fel y’i haddaswyd gan reoliad 7(4)), rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir copi i ddeiliad y contract o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.”
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “dyddiad trosi”, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r dyddiad y daeth y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 240 o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â rheoliad 6: adroddiadau ar gyflwr trydanol sydd eisoes yn bodoli
8 
At ddibenion rheoliad 6(1), nid oes wahaniaeth os cafwyd yr adroddiad ar gyflwr trydanol dilys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022
YR ATODLEN
Materion ac Amgylchiadau
Rheoliad 3
Lleithder, gwiddon a thyfiant llwydni neu ffwngaidd
1 
Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd.
Oerfel
2 
Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy isel.
Gwres
3 
Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy uchel.
Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd
4 
Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.
Bywleiddiaid
5 
Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni.
Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd
6 
Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—
(a) carbon monocsid;
(b) nitrogen diocsid;
(c) sylffwr diocsid a mwg.
Plwm
7 
Amlyncu plwm.
Ymbelydredd
8 
Bod mewn cyffyrddiad ag ymbelydredd.
Nwy tanwydd nas hylosgwyd
9 
Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.
Cyfansoddion organig anweddol
10 
Bod mewn cyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.
Gorlenwi a gofod
11 
Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.
Tresmaswyr yn dod i mewn
12 
Anawsterau wrth gadw’r annedd yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.
Goleuo
13 
Diffyg golau digonol.
Sŵn
14 
Bod mewn cysylltiad â sŵn.
Hylendid domestig, plâu a sbwriel
15 

(1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw’r annedd yn lân.
(2) Bod mewn cyffyrddiad â phlâu.
(3) Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a’i waredu’n hylan.
Diogelwch bwyd
16 
Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.
Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau
17 
Darpariaeth annigonol—
(a) o gyfleusterau i gynnal hylendid personol da;
(b) o garthffosiaeth a draeniau.
Cyflenwad dŵr
18 
Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.
Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc.
19 
Cwympo sy’n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.
Cwympo ar arwynebau
20 
Cwympo ar arwyneb.
Cwympo ar risiau etc.
21 
Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau.
Cwympo rhwng arwynebau
22 
Cwympo o un arwyneb i un arall (gan gynnwys cwympo o uchder).
Peryglon trydanol
23 
Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.
Tân
24 
Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a’r mwg sy’n gysylltiedig ag ef.
Fflamau, arwynebau poeth etc.
25 
Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—
(a) tân neu fflamau a reolir;
(b) Gwrthrychau, hylifau neu anweddau poeth.
Taro yn erbyn neu fynd yn sownd
26 
Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o’r corff yn mynd yn sownd ynddynt.
Ffrwydradau
27 
Ffrwydrad yn yr annedd.
Safle amwynderau a’u gweithrediad etc.
28 
Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau ac offer.
Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn
29 
Yr annedd gyfan neu ran ohoni yn dymchwel gan gynnwys elfennau’n disgyn.