
2022 Rhif 594 (Cy. 137)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022
Gwnaed 27 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 30 Mai 2022
Yn dod i rym 29 Mehefin 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 53(1)(b) a 57a(6) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 29 Mehefin 2022.
Dirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir
2 
Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/6 dyddiedig 5 Ionawr 2016 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima ac sy’n diddymu Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 322/2014;
(b) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2058 dyddiedig 10 Tachwedd 2017 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima;
(c) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1787 dyddiedig 24 Hydref 2019 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima.
Dirymu Datganiad OFFC/2019/W/04
3 
Mae Datganiad OFFC/2019/W/04, i’r graddau y mae’n parhau i gael effaith yn rhinwedd rheoliad 16 o Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020, wedi ei ddirymu.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mai 2022