Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2018/1173 (Cy. 237) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2022 Rhif 58 (Cy. 22)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022
Gwnaed 20 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 24 Ionawr 2022
Yn dod i rym 14 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys cyn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Chwefror 2022.
Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig)—
(a) hepgorer “North East Property LP (rhif y cwmni LP017936)”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder “North East Property (GP) Limited (rhif y cwmni 04069901)”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2022