
2022 Rhif 563 (Cy. 129)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Gwnaed 20 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru  24 Mai 2022
Yn dod i rym 14 Mehefin 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(9) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 14 Mehefin 2022.
Diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 – y diffiniad o eiddo domestig
2 

(1) Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (2BB)—
(a) yn lle “140”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “252”;
(b) yn lle “70”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “182”.
Darpariaeth drosiannol
3 

(1) Mewn perthynas â diwrnod asesu sy’n digwydd cyn 1 Ebrill 2023, mae’r cyfeiriadau at 252 a 182 a fewnosodir gan erthygl 2 yn adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w dehongli fel cyfeiriadau at 140 a 70 yn y drefn honno.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod asesu” yw’r diwrnod y mae’r cwestiwn yn cael ei ystyried mewn perthynas ag ef o dan adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2022