
2022 Rhif 52 (Cy. 20)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 18 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 20 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru (ar yr amod y cymeradwyir y Rheoliadau hyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022, neu cyn 1 Mawrth 2022, pa un bynnag sydd gynharaf).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Newid i’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022
2 
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022—
(a) nid yw paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;
(b) at ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai B yw 109.1.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2022