
2022 Rhif 517 (Cy. 124)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed 8 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Mai 2022
Yn dod i rym 30 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac yn adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c), ac yn adran 210(7) o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mai 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 6 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 5 oed ynddi;
 ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;
 mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 mae i “dosbarth” (“class”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 82(1) o Ddeddf 2021;
 mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” yn adran 337(2) o Ddeddf 1996.
RHAN 2 Dirymu, Datgymhwyso a Darpariaeth Drosiannol
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004
3 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 wedi ei ddirymu.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005
4 

(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn 2005”) yn gymwys i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a) Gorchymyn 2005, a
(b) Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011.
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013
5 

(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol ym mharagraffau (2) i (5).
(2) Mae’r darpariaethau trosiannol yn gymwys i ddisgyblion—
(a) ym mlwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(b) ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(c) ym mlwyddyn 7 nad ydynt ar 1 Medi 2022, o fewn is-baragraff (b), o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024,
(d) ym mlwyddyn 8 o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024, ac
(e) ym mlwyddyn 9 o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025.
(3) Yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013—
(a) mae’r diffiniadau o “y PDCCC”, “y PDCCS” ac “y PRhC” i’w darllen fel pe bai’r geiriau “Cwricwlwm Cenedlaethol” wedi eu hepgor,
(b) mae’r diffiniadau a ganlyn i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor—
(i) “y ddogfen Gymraeg”,
(ii) “rhaglen astudio Cymraeg”, a
(iii) “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith”,
(c) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 2” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;”,
(d) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 3” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;”,
(e) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 4” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;”,
(f) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 5” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;”,
(g) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 6” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;”,
(h) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 7” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;”,
(i) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 8” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi”, a
(j) yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 9” rhodder—“
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;”.
(4) Yn lle erthygl 3(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i—
(a) disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9; a
(b) disgybl ym mlynyddoedd 2 a 3 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”
(5) Yn lle erthygl 4(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”
(6) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a) Gorchymyn 2013; a
(b) Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014
6 

(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Nid yw Gorchymyn 2014 yn gymwys—
(a) o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—
(i) yn y flwyddyn meithrin,
(ii) yn y flwyddyn derbyn, a
(iii) ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6,
(b) o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, ac
(c) o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8.
(3) Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015
7 
Caiff Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 ei ddirymu ar 30 Mai 2022.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015
8 

(1) Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 (“Gorchymyn 2015”) hepgorer Rhannau 3 a 4.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2022—
(a) Gorchymyn 2015, a
(b) Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2016.
RHAN 3 Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
9 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 2 yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—“
 ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—
(a) yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005;
(b) yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;
(c) yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014; a
(d) yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.
(3) Yn rheoliad 4A hepgorer paragraffau (a) a (b).
(4) Yn yr Atodlen hepgorer paragraff 2 o Ran 1.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
10 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—“
 ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—
(a) yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005;
(b) yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;
(c) yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014; a
(d) yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.
(3) Yn lle Atodlen 2 rhodder—“
ATODLEN 2
Darparu Gwybodaeth i Gyrff Llywodraethu, Awdurdodau Lleol a Gweinidogion Cymru: Canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen a’r Cyfnodau Allweddol
Rheoliadau 4, 5 a 6
1. 
Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol dau a chyfnod allweddol tri, canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.
2. 
Pan na fo rhai neu’r cyfan o’r canlyniadau a nodir ym mharagraff 1 ar gael—
(a) a gafodd y disgybl ei esemptio rhag yr asesiadau statudol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(b) a yw canlyniadau asesiadau statudol y disgybl heb fod ar gael am resymau ac eithrio esemptio’r disgybl o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002.
3. 
At ddibenion rheoliadau 5 a 6, nid yw paragraff 1 yn cynnwys canlyniadau Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.”
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
11 
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 hepgorer paragraff (2)(c).
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2022