
2022 Rhif 51 (Cy. 19)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 19 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
 ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 

(1) Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn is-baragraff (e)—
(a) ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ddiwedd paragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
(c) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“neu
(iv) caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan;”.
(3) Ar ôl is-baragraff (k) hepgorer “neu”.
(4) Ar ddiwedd is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
(5) Ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(m) yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e), pan fo caniatâd o’r fath yn cael ei roi yn rhinwedd—
(i) y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid, neu
(ii) y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
(n) yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
4 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
5 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yn lle’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol) rhodder—“

Colofn (1) Colofn (2)
Person, cwpl neu briodas amlbriod Swm

(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn £197.10

(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn £294.90

(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn—
(a) ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;
(b) ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. £294.90£97.80”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.
6 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—“
28D. 
Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
28E. 
Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
7 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
8 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
(e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
(ii) ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
9 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—“
66. 
Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
67. 
Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
10 
Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod - materion eraill), ym mharagraff 5—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—“
(d) taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).”
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
11 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.
12 

(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (e)—
(a) ar ôl is-baragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
(c) ar ôl is-baragraff (iii) mewnosoder—“neu
(iv) caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan;”.
(3) Ar ôl paragraff (k) hepgorer “neu”.
(4) Ar ddiwedd paragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
(5) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), pan fo’r caniatâd hwnnw wedi ei roi yn rhinwedd—
(i) y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid, neu
(ii) y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
(n) yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn paragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
13 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
14 
Ym mharagraff 111 (tystiolaeth a gwybodaeth)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—“
(d) taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).”
15 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 1 (lwfans personol), yn lle’r Tabl rhodder—“

Colofn (1) Colofn (2)
Person, cwpl neu briodas amlbriod Swm

(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn £197.10

(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn £294.90

(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn—
(a) ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;
(b) ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. £294.90£97.90”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.
16 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
(e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
(ii) ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
17 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—“
28D. 
Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
28E. 
Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
18 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—“
66. 
Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.
67. 
Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2022