
2022 Rhif 473 (Cy. 117)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Gwnaed 25 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 27 Ebrill 2022
Yn dod i rym 25 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mai 2022.
(3) Mae rheoliad 3 yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 9BA(1)(a) o’r Atodlen, yn lle “blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “blwyddyn academaidd ar y cwrs”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 13F(2) o Atodlen 4, yn lle “myfyriwr cymwys” rhodder “myfyriwr ôl-raddedig cymwys”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2022