
2022 Rhif 450 (Cy. 109)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 11.12 a.m. ar 13 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 13 Ebrill 2022
Yn dod i rym 18 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Ebrill 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn lle “18 Ebrill 2022” rhodder “9 Mai 2022”.
(3) Hepgorer Rhan 4, ac eithrio paragraff (1) o reoliad 15.
(4) Yn y pennawd i reoliad 15, hepgorer “a phersonau cyfrifol”.
(5) Yn rheoliad 25—
(a) hepgorer paragraff (1);
(b) ym mharagraff (3)—
(i) hepgorer is-baragraff (a)(i);
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
(6) Hepgorer rheoliad 26.
(7) Yn rheoliad 42, hepgorer paragraffau (3) i (5).
(8) Yn rheoliad 52(1), hepgorer “, (3) neu (4)”.
(9) Yn rheoliad 57(1), hepgorer is-baragraffau (e) ac (f).
(10) Hepgorer Atodlenni 8 a 9.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 11.12 a.m. ar 13 Ebrill 2022