
2022 Rhif 445 (Cy. 108)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed 7 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Ebrill 2022
Yn dod i rym 9 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 38 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag Erthygl 39(7) o’r Rheoliad hwnnw, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol, a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi, cychwyn, dod i ben, cymhwyso a rhychwant
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2022 a deuant i ben ar 1 Hydref 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
Diwygiadau i Reoliad (EU) Rhif 576/2013
2 

(1) Mae Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodiad 4 (gofynion dilysrwydd ar gyfer prawf titradiad gwrthgorff y gynddaredd)—
(a) ym mhwynt 2(b), ar y diwedd mewnosoder “, except where point 2A applies”;
(b) ar ôl pwynt 2, mewnosoder—“
2A. 
This point applies where, the Welsh Ministers have administered a test which measures a level of antibody to rabies virus in serum of the animal tested equal to or greater than 0.3 EU/ml and using an enzyme linked immunosorbent assay method that meets the validation standards set out in Chapter 1.1.6 of the Manual of Diagnostic Tests and Vaccines for Terrestrial Animals 2021 (commonly known as the “OIE validation standard”);”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
7 Ebrill 2022