
2022 Rhif 412 (Cy. 101)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
Gwnaed 30 Mawrth 2022
Yn dod i rym 5 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 50(3)(a) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac adran 22(6) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(f) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 5Mai 2022.
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972
2 
Yn adran 100G o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan brif gynghorau), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—“
(5) But, in relation to a principal council in Wales, the information open to inspection under subsection (4) must not include a member’s address included in the register maintained under subsection (1).”
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001
3 
Yn rheoliad 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan awdurdodau lleol), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Ond, ni chaiff yr wybodaeth sy’n agored i’w harchwilio o dan baragraff (3) gynnwys cyfeiriad aelod sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir o dan baragraff (1).”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2022