
2022 Rhif 403 (Cy. 100)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed 29 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 30 Mawrth 2022
Yn dod i rym 6 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a (b) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy:
RHAN 1 Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mai 2022.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
PENNOD 1
Cyflwyniad
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras
Diwygiadau i reoliad 2
4 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiadau i reoliad 3
5 
Yn rheoliad 3(10)(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 1
6 
Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).
RHAN 3 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras
Diwygiadau i reoliad 2
8 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Diwygiadau i reoliad 3
9 
Yn rheoliad 3(11)(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiad i Atodlen 1
10 
Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).
PENNOD 3
Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Diwygiad i reoliad 2
11 
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—
(a) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(c) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(d) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
Diwygiad i reoliad 8
12 
Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bb), mewnosoder—“
(bc) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
Diwygiadau i Atodlen 1
13 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A(4)(b)—
(a) yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ddiwedd is-baragraff (iv), mewnosoder “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (iv), mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
PENNOD 4
Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 13
14 
Yn rheoliad 13—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”;
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”.
PENNOD 5
Diwygiadau sy’n ymwneud â rhaglenni seicoleg addysgol penodol
Diwygiad i reoliad 3
15 
Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(3A) Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—
(a) os yw A yn ymgymryd â rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain at ddyfarnu doethuriaeth mewn seicoleg addysgol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, a
(b) os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r rhaglen honno unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru.”
RHAN 4 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1
Cyflwyniad
16 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras
Diwygiadau i reoliad 12A
17 
Yn rheoliad 12A(a)—
(a) yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
Diwygiadau i Atodlen 1
18 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii) o’r diffiniad hwnnw.
Diwygiad i Atodlen 2
19 
Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).
Diwygiad i Atodlen 4
20 
Yn Atodlen 4, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.
PENNOD 3
Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan
Diwygiadau i reoliad 16
21 
Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (1)(b), ar ôl is-baragraff (i), mewnosoder—“
(ia) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b) ym mharagraff 2, yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
Diwygiadau i Atodlen 2
22 
Yn Atodlen 2, paragraff 2A—
(a) yn is-baragraff (4)(b)—
(i) hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (iii);
(ii) ar ddiwedd paragraff (iv), yn lle’r hanner colon rhodder “, neu”;
(iii) ar ôl paragraff (iv), mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
(b) ar ôl is-baragraff (4)(d) mewnosoder—“
(da) ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—
(i) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,
(ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,
(iii) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu
(iv) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
PENNOD 4
Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol
Diwygiadau i reoliad 31
23 
Yn rheoliad 31—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.
Diwygiadau i reoliad 36
24 
Yn rheoliad 36—
(a) ym mharagraff (8), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;
(b) ym mharagraff (10), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.
PENNOD 5
Diwygiadau sy’n ymwneud â chyrsiau gwaith cymdeithasol ôl-raddedig penodol
Diwygiadau i reoliad 10
25 
Yn rheoliad 10(1)—
(a) yn Eithriad 9, hepgorer paragraff (d);
(b) ar ôl Eithriad 9, mewnosoder—“Eithriad 9A
 Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio.
 Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan fo’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.”
Mewnosod rheoliad newydd 24A
26 
Yn Rhan 6, ar ôl y pennawd i Bennod 2 o’r Rhan honno, mewnosoder—“
Amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol
24A. 
Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig.”
Diwygiad i reoliad 26
27 
Yn rheoliad 26, ar ôl “garcharor cymwys”, mewnosoder “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Diwygiad i reoliad 31
28 
Yn rheoliad 31(1), ar ôl “fyfyriwr cymwys”, mewnosoder “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Mewnosod rheoliad newydd 31A
29 
Ar ôl rheoliad 31, mewnosoder—“
31A. 

(1) Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig (“P”) fel a ganlyn—£18,430MinwsSwm y bwrsari gofal cymdeithasol a roddir neu a delir i P.
(2) Caiff myfyriwr gofal cymdeithasol cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—
(a) nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol â pharagraff (1), a
(b) bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “bwrsari gofal cymdeithasol” yw unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae mewn cysylltiad â threuliau teithio.”
Diwygiad i Atodlen 1
30 
Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig” (“postgraduate social care student”) yw myfyriwr cymwys y rhoddwyd neu y talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2022