
2022 Rhif 39 (Cy. 16)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed am 4.24 p.m. ar 14 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.30 p.m. ar 14 Ionawr 2022
Yn dod i rym 15 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Ionawr 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(1), o dan bennawd “Cam 2”, ar ôl “Gam 3” mewnosoder “a Cham 4”.
(3) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 2(6)(j)(i), yn lle “50” rhodder “500”;
(b) ym mharagraff 4—
(i) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “50” rhodder “500”;
(ii) hepgorer is-baragraff (2)(l);
(iii) yn is-baragraff (3)(b), yn lle “50” rhodder “500”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 4.24 p.m. ar 14 Ionawr 2022