
2022 Rhif 388 (Cy. 97)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.59 p.m. ar 25 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 25 Mawrth 2022
Yn dod i rym 28 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer Rhan 3.
(3) Hepgorer Rhan 4A.
(4) Hepgorer rheoliad 19.
(5) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer is-baragraffau (a) i (g);
(ii) hepgorer is-baragraff (j);
(b) hepgorer paragraff (6).
(6) Hepgorer rheoliad 21.
(7) Yn rheoliad 25(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “18A, 19, 20, 27 i 34,” rhodder “20, 27 i 29, 31 i 34,”.
(8) Yn rheoliad 27(1), hepgorer is-baragraffau (za) ac (a).
(9) Hepgorer rheoliad 30.
(10) Yn rheoliad 31, hepgorer paragraff (1)(a).
(11) Yn rheoliad 32, hepgorer paragraffau (1) a (2).
(12) Yn rheoliad 36(3)—
(a) hepgorer is-baragraffau (b) ac (c);
(b) yn is-baragraff (e), yn lle “32(1)(b) neu (3)(b)” rhodder “32(3)(b)”.
(13) Yn rheoliad 39, hepgorer paragraffau (2) a (3).
(14) Hepgorer rheoliad 40.
(15) Yn rheoliad 41, hepgorer “19(1) neu”.
(16) Yn rheoliad 42, hepgorer paragraff (2).
(17) Yn rheoliad 43, hepgorer paragraff (2)(a)(ii).
(18) Yn rheoliad 48(1), yn lle “49, 50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 52”.
(19) Hepgorer rheoliad 49.
(20) Hepgorer rheoliad 51.
(21) Yn rheoliad 52(1), hepgorer “, (2)”.
(22) Yn rheoliad 53(1)(c), hepgorer “, 49” a “, 51”.
(23) Yn rheoliad 54, hepgorer paragraff (2).
(24) Yn rheoliad 56(1A)(a), hepgorer “ac eithrio trosedd o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw”.
Darpariaeth drosiannol: dirymu gofynion ynysu
3 
Pan fo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, yn unol â rheoliad 6(2), 7(2) neu 8(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn union cyn iddynt gael ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn, mae’r gofyniad yn peidio â bod yn gymwys pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.59 p.m. ar 25 Mawrth 2022