
2022 Rhif 367 (Cy. 89)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cyfraith Trosedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022
Gwnaed 23 Mawrth 2022
Yn dod i rym 25 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 17(4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 114(3) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mawrth 2022.
Diwygio adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
2 
Yn adran 17(2) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, ar ôl “a joint authority;” mewnosoder “a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (asc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2022