
2022 Rhif 348 (Cy. 86)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 21 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 22 Mawrth 2022
Yn dod i rym 23 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 90(2) o Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2022.
Newid dyddiad dod i ben
2 

(1) O ran y darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 a bennir ym mharagraff (2)—
(a) nid ydynt yn dod i ben ar yr adeg y byddent yn dod i ben fel arall yn rhinwedd adran 89 o’r Ddeddf, a
(b) maent yn dod i ben yn lle hynny ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adran 38(1), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(b) adran 82, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(c) yn Rhan 1 o Atodlen 17—
(i) paragraff 2;
(ii) paragraff 3, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iii) paragraff 4, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iv) paragraff 7;
(v) paragraff 8.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2022