
2022 Rhif 314 (Cy. 82)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022
Gwnaed 16 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriad hwnnw ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021
2 

(1) Mae Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 4(b) (cymuned Rhymni: newidiadau i wardiau cymunedol), yn lle “Moriah” rhodder “Dewi Sant”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2022