
2022 Rhif 28 (Cy. 13)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022
Gwnaed 7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.
Datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau rhagnodedig
3 

(1) Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—
(a) contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;
(b) contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;
(c) contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—
(i) nad yw’n gontract safonol â chymorth;
(ii) nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;
(iii) nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
(iv) nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;
(v) nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;
(b) ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—
(i) nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
(ii) nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a
(iii) nad yw o fewn Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022
ATODLEN 1
Rheoliad 3

ATODLEN 2
Rheoliad 3

ATODLEN 3
Rheoliad 3
