
2022 Rhif 279 (Cy. 80)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022
Gwnaed 11 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2022.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn diwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2022.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;
 pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
(2) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw orchymyn blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu orchymyn a wnaed o dan adran 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Cymuned Caldicot — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol
3 
Mae’r ardal a ddangosir â llinellau ar y map—
(a) wedi ei throsglwyddo o ward The Village o gymuned Caldicot i ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b) yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croes Cil-y-coed.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2022