
2022 Rhif 251 (Cy. 77)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed am 1.49 p.m. ar 8 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Mawrth 2022
Yn dod i rym 1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.
RHAN 2 Diwygiadau i Reoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) 1990
Diwygiadau i Reoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) 1990
2 
Mae Rheoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) 1990 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiad i reoliad 1(2)
3 
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle’r diffiniad o “director” rhodder—“
 “director”—
(a) in relation to an NHS trust in England includes its chairman;
(b) in relation to an NHS trust in Wales includes its chairman and vice-chair;”.
Diwygiadau i reoliad 2
4 
Yn rheoliad 2 (uchafswm nifer y cyfarwyddwyr)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “NHS Trust” mewnosoder “in Wales shall be twelve (excluding the Chairman and vice-chair) and in England”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “NHS Trust” mewnosoder “in Wales shall have no more than six non-executive directors (excluding the Chairman and vice-chair), and no more than six executive directors, and an NHS trust in England”.
Diwygiadau i reoliad 7
5 
Yn rheoliad 7 (deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “chairman” mewnosoder “, vice-chair”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1ZA) Subject to regulation 9, the chairman, vice-chair and non-executive directors of an NHS trust in Wales must be appointed for such period, not exceeding four years, as the Welsh Ministers may specify on making the appointment.”
Diwygiadau i reoliad 9
6 
Yn rheoliad 9 (terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “chairman” mewnosoder “, vice-chair”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) The chairman, vice-chair or a non-executive director of an NHS trust in Wales may resign from office at any time during the period for which they were appointed by giving notice in writing to the Welsh Ministers.”;
(d) ym mharagraff (2), yn lle “a trust” rhodder “an NHS trust in England”;
(e) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(2A) Where during their period of directorship a non-executive director of an NHS trust in Wales is appointed chairman or vice-chair of the trust, that person’s tenure of office as non-executive director terminates when their appointment as chairman or vice-chair takes effect.”;
(f) ym mharagraff (3), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(g) ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(3A) If the Welsh Ministers are of the opinion that it is not in the interests of the health service for a person appointed as chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales to continue to hold that office, the Welsh Ministers may remove that person from office.”;
(h) ym mharagraff (4), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(i) ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(4A) If a chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales has not attended a meeting of the trust for a period of three months, the Welsh Ministers may remove that person from office, unless the Welsh Ministers are satisfied that—
(a) the absence was due to a reasonable cause; and
(b) the chairman, vice-chair or non-executive director will be able to attend meetings of the trust within such period as the Welsh Ministers consider reasonable.”;
(j) ym mharagraff (5) ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(k) ar ôl paragraff (5), mewnosoder—“
(5A) Where a person has been appointed as the chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales—
(a) if that person becomes disqualified for appointment under regulation 11, the Welsh Ministers must notify that person in writing of such disqualification; or
(b) if it comes to the notice of the Welsh Ministers that at the time of that person’s appointment they were so disqualified, the Welsh Ministers must declare that the person was not duly appointed and so notify that person in writing,
and upon receipt of any such notification, that person’s tenure of office, if any, is terminated and that person must cease to act as chairman, vice-chair or non-executive director.”;
(l) ym mharagraff (6) ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”;
(m) ar ôl paragraff (6), mewnosoder—“
(6A) If it appears to the Welsh Ministers that the chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales has failed to comply with regulation 20 (disclosure etc. on account of pecuniary interest) the Welsh Ministers may terminate that person’s tenure of office.”
Diwygiad i reoliad 10(1)
7 
Yn rheoliad 10(1) (cymhwystra ar gyfer ailbenodi), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England, and the chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales”.
Diwygiadau i reoliad 11
8 
Yn rheoliad 11 (datgymhwyso rhag penodi cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “chairman” mewnosoder “, vice-chair”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England, or for appointment as the chairman, vice-chair or non-executive director of an NHS trust in Wales,”;
(c) ym mharagraff (6)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”;
(ii) ar ôl “NHS trust”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “in England”;
(d) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6A) In relation to Wales, a person is not disqualified by paragraph (1)(e) from being the chairman, vice-chair or a non-executive director of an NHS trust in Wales during the period between the date on which it is established and its operational date by virtue of being the chairman, vice-chair or a non-executive director of another NHS trust.”
Diwygiadau i reoliad 13
9 
Yn rheoliad 13 (penodi is-gadeirydd)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “vice-chairman” mewnosoder “in relation to England”;
(b) ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(4) This regulation does not apply in relation to an NHS trust in Wales.”
Diwygiadau i reoliad 14
10 
Yn rheoliad 14 (pwerau is-gadeirydd)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “vice-chairman” mewnosoder “in relation to England”;
(b) yn y paragraff hwnnw, ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England”.
Mewnosod rheoliad 14A
11 
Ar ôl rheoliad 14, mewnosoder—“
Powers of vice-chair in relation to Wales
14A. 
Where the chairman of an NHS trust in Wales has died or has otherwise ceased to hold office or where they have been unable to perform their duties as chairman owing to illness, absence from England and Wales or any other cause, the vice-chair of that NHS trust must act as chairman until a new chairman is appointed or the existing chairman resumes the duties of chairman; and references to the chairman in the Schedule to these Regulations must, so long as there is no chairman able to perform those duties, be taken to include references to the vice-chair.”
Diwygiadau i reoliad 17
12 
Yn rheoliad 17 (pwyllgor ar gyfer penodi prif swyddog yn gyfarwyddwr)—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) yn y paragraff hwnnw—
(i) ar y dechrau mewnosoder “In relation to”;
(ii) ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England, the trust”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) In relation to an NHS trust in Wales, the trust must appoint a committee whose members must be the chairman, vice-chair and non-executive directors of the trust who must appoint the chief officer as a director of the trust.”
Diwygiadau i reoliad 18
13 
Yn rheoliad 18 (pwyllgor ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio prif swyddog)—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) yn y paragraff hwnnw—
(i) ar y dechrau mewnosoder “In relation to”;
(ii) ar ôl “NHS trust” mewnosoder “in England, the trust”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) In relation to an NHS trust in Wales, the trust must appoint a committee whose members must be the chairman, vice-chair, non-executive directors and the chief officer who must appoint the executive directors of the trust other than the chief officer.”
Diwygiadau i baragraff 3 o’r Atodlen
14 
Ym mharagraff 3 o’r Atodlen—
(a) ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—“
(1A) In relation to an NHS trust in Wales, if the chairman is absent from the meeting, the vice-chair, if present, must preside.”;
(b) yn is-baragraff (2), ar y dechrau mewnosoder “In relation to any meeting of an NHS trust in England,”;
(c) ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—“
(2A) In relation to any meeting of an NHS trust in Wales, if the chairman and vice-chair are absent, such non-executive director as the directors present choose, must preside.”
RHAN 3 Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993
Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993
15 
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i erthygl 4
16 
Yn erthygl 4 (cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth)—
(a) ar ôl “chairman” mewnosoder “and vice-chair”;
(b) yn lle “5” rhodder “6”.
RHAN 4 Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998
Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998
17 
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i erthygl 4
18 
Yn erthygl 4 (cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth)—
(a) ar ôl “chairman” mewnosoder “and vice-chair”;
(b) yn lle “seven” rhodder “six”;
(c) yn lle “five” rhodder “six”.
RHAN 5 Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
Diwygiadau i Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
19 
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i erthygl 4
20 
Yn erthygl 4 (cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth)—
(a) ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “a’r is-gadeirydd”;
(b) yn lle “5 cyfarwyddwr” rhodder “6 chyfarwyddwr”.
RHAN 6 Diwygiadau i Reoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009
Diwygiadau i Reoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009
21 
Mae Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 1(2)
22 
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “penodai”, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “neu is-gadeirydd”;
(b) yn y diffiniad o “cyfarwyddwr”, ar ôl “chadeirydd” mewnosoder “a’i his-gadeirydd”.
Diwygiadau i reoliad 2
23 
Yn rheoliad 2 (mwyafswm nifer y cyfarwyddwyr)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “11” rhodder “12”;
(ii) ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “na’r is-gadeirydd”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “na’r is-gadeirydd”;
(ii) yn lle “5 cyfarwyddwr” rhodder “6 chyfarwyddwr”.
Diwygiad i reoliad 4(c)
24 
Yn rheoliad 4(c) (cyfarwyddwyr gweithredol), yn lle “tri chyfarwyddwr” rhodder “pedwar cyfarwyddwr”.
Diwygiadau i reoliad 8
25 
Yn rheoliad 8 (deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, is-gadeirydd”:
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “ac is-gadeirydd”.
Diwygiad i reoliad 10
26 
Yn rheoliad 10 (terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, is-gadeirydd”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “neu is-gadeirydd”;
(c) ym mharagraff (2), ar ôl “gadeirydd” mewnosoder “neu’n is-gadeirydd” ac ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “neu is-gadeirydd”;
(d) ym mharagraff (3), ar ôl “gadeirydd” mewnosoder “neu’n is-gadeirydd”;
(e) ym mharagraff (4), ar ôl “cadeirydd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “neu is-gadeirydd” ac yn yr ail le y mae’n digwydd mewnosoder “, yr is-gadeirydd”;
(f) ym mharagraff (5), ar ôl “gadeirydd” mewnosoder “neu’n is-gadeirydd” ac ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, is-gadeirydd”;
(g) ym mharagraff (6), ar ôl “gadeirydd” mewnosoder “neu’n is-gadeirydd”;
(h) ym mharagraff (7), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “neu is-gadeirydd”.
Diwygiadau i reoliad 11
27 
Yn rheoliad 11 (atal cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol o’u swyddi), ar ôl “cadeirydd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, is-gadeirydd” (gan gynnwys y pennawd).
Hepgor rheoliad 13
28 
Hepgorer rheoliad 13.
Diwygiad i reoliad 14
29 
Yn rheoliad 14(1) (cymhwystra ar gyfer ailbenodi), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “neu is-gadeirydd”.
Diwygiadau i reoliad 15
30 
Yn rheoliad 15 (datgymhwyso rhag penodi cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, is-gadeirydd”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “gadeirydd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’n is-gadeirydd”;
(c) ym mharagraff (4), ar ôl “gadeirydd”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’n is-gadeirydd”.
Hepgor rheoliad 17
31 
Hepgorer rheoliad 17.
Diwygiad i reoliad 18
32 
Yn lle rheoliad 18 (pwerau is-gadeirydd), rhodder—“
18. 
O ran cadeirydd yr Ymddiriedolaeth—
(a) os yw wedi marw;
(b) os yw wedi peidio â bod yn ddeiliad y swydd; neu
(c) os nad yw’n gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, oherwydd ei fod yn absennol o Gymru a Lloegr, oherwydd ei fod wedi ei atal dros dro o dan reoliad 11 neu oherwydd unrhyw achos arall,rhaid i’r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd; a rhaid cymryd bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 2, tra nad oes cadeirydd neu tra na fydd y cadeirydd yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.”
Diwygiad i reoliad 21
33 
Yn rheoliad 21 (pwyllgor ar gyfer penodi prif swyddog yn gyfarwyddwr), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “ac is-gadeirydd”.
Diwygiad i reoliad 22
34 
Yn rheoliad 22 (pwyllgor ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio’r prif swyddog), ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, yr is-gadeirydd”.
Diwygiadau i Atodlen 1
35 
Yn Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, yr is-gadeirydd”;
(b) ym mharagraff 1, ar ôl “cadeirydd” mewnosoder “, yr is-gadeirydd”.
Diwygiadau i Atodlen 2
36 
Yn Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth), ym mharagraff 3—
(a) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Os yw’r cadeirydd yn absennol o’r cyfarfod, rhaid i’r is-gadeirydd, os yw’n bresennol, lywyddu.”;
(b) yn is-baragraff (2) hepgorer “(os o gwbl)”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 1.49 p.m. ar 8 Mawrth 2022