
2022 Rhif 248 (Cy. 74)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022
Gwnaed 7 Mawrth 2022
Yn dod i rym 11 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriadau wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(“Deddf 2013”).

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriadau hynny ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mawrth 2022.
Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021
2 

(1) Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (3)—
(a) yn lle “a chymuned Pen-llin” rhodder “a chymunedau Llan-fair, a Phen-llin”;
(b) yn lle “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll” rhodder “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd”;
(c) yn lle “Cymuned Sili” rhodder “Cymuned Sili a Larnog”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2022