
2022 Rhif 245 (Cy. 73)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
Gwnaed 8 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 203(5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, paragraff 4(7) o Atodlen 4 iddi, a pharagraff 5(7) o Atodlen 7 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adolygiad” (“review”) yw adolygiad o dan adran 203 o’r Ddeddf, paragraff 4 o Atodlen 4 iddi, neu baragraff 5 o Atodlen 7 iddi;
 mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan adran 246 o’r Ddeddf;
 mae i “deiliad contract” (“contract-holder”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5) o’r Ddeddf (gweler hefyd adran 48);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
 ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar;
 mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 244(2) o’r Ddeddf (gweler hefyd adran 53).
Personau a gaiff gynnal adolygiad
3 

(1) Rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad sy’n cael ei adolygu.
(2) Pan fo’r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaed gan un o swyddogion y landlord ac y bo i’w gynnal gan swyddog arall o’r fath, rhaid i’r swyddog sy’n adolygu’r penderfyniad fod â safle o fewn sefydliad y landlord sy’n uwch na safle’r swyddog a wnaeth y penderfyniad.
Hawl i wrandawiad
4 

(1) Pan fo deiliad y contract yn gofyn am hynny, rhaid i adolygiad gael ei gynnal drwy wrandawiad.
(2) Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud i’r landlord cyn diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 202(3) o’r Ddeddf, paragraff 4(2) o Atodlen 4 iddi, neu baragraff 5(2) o Atodlen 7 iddi, yn ôl y digwydd.
Sylwadau ysgrifenedig
5 

(1) Pa un a yw’r adolygiad i’w gynnal drwy wrandawiad ai peidio, caiff deiliad y contract gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r landlord mewn cysylltiad â’r adolygiad.
(2) Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract yn ysgrifenedig o’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i unrhyw sylwadau o’r fath ddod i law’r landlord.
(3) Rhaid i’r dyddiad hwnnw fod o leiaf bum niwrnod ar ôl i’r hysbysiad o dan baragraff (2) ddod i law deiliad y contract.
(4) Rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau o’r fath sy’n dod i law erbyn y dyddiad hwnnw.
Gwrandawiad rhithwir
6 
Pan fo deiliad y contract yn cydsynio yn ysgrifenedig, caniateir cynnal y gwrandawiad drwy gyswllt fideo, ar y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth.
Hysbysiad o wrandawiad
7 

(1) Pan fo deiliad y contract yn gofyn am wrandawiad, rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract o leiaf ddeng niwrnod o rybudd, ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig—
(a) o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, neu
(b) os yw’r gwrandawiad i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(2) Os nad yw hysbysiad o’r fath wedi ei roi i ddeiliad y contract, ni chaniateir bwrw ymlaen â’r gwrandawiad ond â chydsyniad deiliad y contract neu ei gynrychiolydd.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
Adolygiad drwy wrandawiad
8 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn, mae’r weithdrefn mewn gwrandawiad adolygu i’w phennu gan y person sy’n cynnal yr adolygiad.
(2) Mae gan ddeiliad y contract yr hawl—
(a) i gael ei glywed,
(b) i fod gyda pherson arall,
(c) i gael ei gynrychioli gan berson arall (“cynrychiolydd”), pa un a yw’r person hwnnw wedi ei gymhwyso’n broffesiynol ai peidio,
(d) i alw personau i roi tystiolaeth,
(e) i ofyn cwestiynau i unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad, ac
(f) i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
(3) At ddibenion y trafodion, mae cynrychiolydd i ddeiliad y contract i gael yr un hawliau a phwerau â deiliad y contract o dan y Rheoliadau hyn.
Absenoldeb deiliad y contract neu gynrychiolydd o wrandawiad
9 
Pan fo’r landlord wedi rhoi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 7 ac na fo deiliad y contract nac unrhyw gynrychiolydd i ddeiliad y contract yn bresennol ar y dyddiad a’r amser a, phan fo’n berthnasol, yn y lleoliad yr hysbyswyd amdanynt, caiff y person sy’n cynnal yr adolygiad—
(a) bwrw ymlaen â’r gwrandawiad, neu
(b) gwneud unrhyw gyfarwyddydau ynghylch cynnal yr adolygiad y mae’r person hwnnw yn ystyried eu bod yn briodol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys unrhyw esboniad a gynigiwyd am yr absenoldeb.
Gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn
10 

(1) Pan—
(a) bo’r landlord wedi rhoi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 7, a
(b) bo deiliad y contract yn gofyn am ohiriad, cyn i’r gwrandawiad gychwyn,
caiff y landlord ganiatáu neu wrthod y cais yn ôl yr hyn y gwêl y landlord ei fod yn addas.
(2) Os caiff y gwrandawiad ei ohirio, rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd rhesymol—
(a) o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a ailgynullir, neu
(b) os yw’r gwrandawiad a ailgynullir i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad a ailgynullir, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad a ailgynullir fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad a ailgynullir pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad a ailgynullir a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
Gohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn
11 

(1) Unwaith y bydd gwrandawiad wedi ei gychwyn, caiff y person sy’n cynnal yr adolygiad ei ohirio ar unrhyw adeg, naill ai ar ysgogiad y person hwnnw ei hun neu ar gais deiliad y contract, cynrychiolydd deiliad y contract neu’r landlord.
(2) Rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd rhesymol—
(a) o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig, neu
(b) os yw’r gwrandawiad gohiriedig i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad gohiriedig, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad gohiriedig fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad gohiriedig pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad gohiriedig a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
(5) Os nad y person sy’n cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad gohiriedig yw’r un person ag a oedd yn cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad cynharach, rhaid i’r adolygiad fynd rhagddo drwy gynnal ail wrandawiad llwyr o’r achos oni bai bod deiliad y contract neu gynrychiolydd deiliad y contract yn cytuno fel arall.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022