
2022 Rhif 24 (Cy. 12)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
Gwnaed 7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 23(1), 131 a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Yn unol ag adran 23(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
Darpariaethau atodol sy’n gymwys i gontractau safonol â chymorth
3 
Mae’r darpariaethau a nodir yn rheoliadau 4 i 18, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori fel telerau contractau safonol â chymorth.
Defnydd o’r annedd
4 
Ni chaniateir i ddeiliad y contract gynnal neu ganiatáu unrhyw fasnach neu fusnes yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.
Lletywyr
5 
Ni chaniateir i ddeiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr heb gydsyniad y landlord.
Rhestr eiddo
6 

(1) Rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract restr eiddo mewn perthynas â’r annedd yn ddim hwyrach na’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o’r contract safonol â chymorth i ddeiliad y contract yn unol ag adran 31 (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf.
(2) Rhaid i’r rhestr eiddo nodi cynnwys yr annedd, gan gynnwys yr holl osodiadau a ffitiadau, a rhaid iddi ddisgrifio eu cyflwr fel yr oedd ar y dyddiad meddiannu.
(3) Os bydd deiliad y contract yn anghytuno â’r wybodaeth yn y rhestr eiddo, caiff deiliad y contract ddarparu sylwadau i’r landlord.
(4) Pan na fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, bernir bod y rhestr eiddo yn gywir.
(5) Pan fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, rhaid i’r landlord naill ai—
(a) diwygio’r rhestr eiddo yn unol â’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, neu
(b) hysbysu deiliad y contract na chytunir â’r sylwadau, ac ailanfon y rhestr eiddo wreiddiol at ddeiliad y contract, gyda’r sylwadau wedi eu hatodi, neu
(c) diwygio’r rhestr eiddo yn unol â rhai o’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, ynghyd â chofnod o’r sylwadau nas cytunwyd.
Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi
7 
Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ac eithrio pan fo’r contract safonol â chymorth yn gontract safonol â chymorth cyfnod penodol o saith mlynedd neu ragor.
Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall
8 
O fewn 14 o ddiwrnodau i gais gan ddeiliad y contract, rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract dderbynneb ysgrifenedig am unrhyw rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd o dan y contract safonol â chymorth.
Newidiadau i’r ddarpariaeth o gyfleustodau i’r annedd
9 

(1) Caiff deiliad y contract newid unrhyw un neu ragor o’r cyflenwyr i’r annedd o—
(a) gwasanaethau trydan, nwy neu danwydd arall, neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth);
(b) gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd, teledu cebl neu deledu lloeren.
(2) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newidiadau a wnaed yn unol â pharagraff (1).
(3) Oni bai bod y landlord yn cydsynio, ni chaniateir i ddeiliad y contract—
(a) gadael yr annedd, ar ddiwedd y contract safonol â chymorth, heb gyflenwr trydan, nwy neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys), neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), oni bai nad oedd y cyfleustodau hyn yn bresennol yn yr annedd ar y dyddiad meddiannu;
(b) gosod neu dynnu, neu drefnu i osod neu dynnu, unrhyw osodiadau gwasanaeth penodedig yn yr annedd.
(4) At ddibenion paragraff (3)(b), ystyr “gosodiadau gwasanaeth penodedig” yw gosodiad ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) ar gyfer glanweithdra, cynhesu lle neu wresogi dŵr.
Gofalu am yr annedd
10 
Nid yw deiliad y contract yn atebol am draul resymol i’r annedd na gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ond—
(a) rhaid iddo gymryd gofal priodol o’r annedd, y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd ac unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo,
(b) ni chaniateir iddo symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau nac unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo heb gydsyniad y landlord,
(c) rhaid iddo gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol, a
(d) ni chaniateir iddo gadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch i ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir, unrhyw bersonau sy’n ymweld â’r annedd neu unrhyw bersonau sy’n preswylio yng nghyffiniau’r annedd.
Atgyweiriadau
11 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano.
(2) Pan fo deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau a restrir yn y rhestr eiddo, rhaid i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod rhesymol o amser, wneud atgyweiriadau i’r gosodiadau hynny a’r ffitiadau hynny neu’r eitemau eraill hynny a restrir yn y rhestr eiddo, neu eu hamnewid.
(3) Mae’r amgylchiadau y mae paragraff (2) yn gymwys oddi tanynt yn cynnwys pan fo’r nam, y diffyg, y difrod neu’r adfeiliad wedi digwydd yn gyfan gwbl neu yn bennaf oherwydd gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal gan ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir neu unrhyw berson sy’n ymweld â’r annedd.
12 

(1) O dan amgylchiadau pan na fo deiliad y contract wedi gwneud yr atgyweiriadau hynny y mae’n gyfrifol amdanynt yn unol â rheoliad 11(2) a (3), caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud atgyweiriadau i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau eraill a restrir yn y rhestr eiddo, neu eu hamnewid.
(2) Ond rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd o 24 awr o leiaf cyn mynd i’r annedd.
Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd
13 

(1) Os bydd argyfwng y bydd angen i’r landlord fynd i’r annedd heb rybudd o ganlyniad iddo, rhaid i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth.
(2) Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad yn syth, caiff y landlord fynd i’r annedd heb ganiatâd deiliad y contract.
(3) Os bydd y landlord yn mynd i’r annedd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r landlord wneud pob ymdrech resymol i hysbysu deiliad y contract ei fod wedi mynd i’r annedd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(4) At ddiben paragraff (1), mae argyfwng yn cynnwys—
(a) rhywbeth y mae angen gwneud gwaith brys o’i herwydd i atal yr annedd neu anheddau yn y cyffiniau rhag cael eu difrodi yn ddifrifol, eu difrodi ymhellach neu eu dinistrio, a
(b) rhywbeth a fyddai, pe nai bai’r landlord yn ymdrin ag ef yn syth, yn peri risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch deiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir o’r annedd, neu bersonau eraill yng nghyffiniau’r annedd.
Diogelwch yr annedd
14 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.
(2) Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu fewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag a oedd yn ei le yn flaenorol.
(3) Os bydd angen allwedd newydd i gael mynediad i’r annedd neu unrhyw ran ohoni o ganlyniad i unrhyw newid a wneir o dan baragraff (2), rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a sicrhau bod copi sy’n gweithio o’r allwedd newydd ar gael i’r landlord.
Newidiadau i’r annedd
15 

(1) Ni chaniateir i ddeiliad y contract wneud unrhyw addasiad i’r annedd heb gydsyniad y landlord.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae “addasiad” yn cynnwys—
(a) unrhyw ychwanegiad at y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw addasiadau iddynt,
(b) gosod erial neu ddysgl lloeren,
(c) gosod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd, a
(d) gwneud gwaith i addurno’r annedd yn allanol.
Rhwymedigaethau deiliad y contract pan fydd y contract safonol â chymorth yn dod i ben
16 
Pan fydd deiliad y contract yn gadael yr annedd pan ddaw’r contract safonol â chymorth i ben, rhaid i ddeiliad y contract—
(a) symud o’r annedd yr holl eiddo sy’n berchen i—
(i) deiliad y contract, neu
(ii) unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd,
(b) dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar y dyddiad meddiannu, ac
(c) dychwelyd i’r landlord yr holl allweddi sy’n galluogi mynediad i’r annedd a ddaliwyd yn ystod cyfnod y contract gan ddeiliad y contract neu unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd.
Hysbysiad tynnu’n ôl gan gyd-ddeiliaid contract: terfyn amser
17 
Y cyfnod amser lleiaf rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 130 o’r Ddeddf (cyd-ddeiliaid contract: tynnu’n ôl) i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yw un mis.
Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben
18 
Rhaid i’r landlord ad-dalu, o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl i’r contract safonol â chymorth ddod i ben, i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022