
2022 Rhif 23 (Cy. 11)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
Gwnaed 7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 23(1), 112, 131 a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(D.

Yn unol ag adran 23(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
RHAN 1 CYFLWYNIAD
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
RHAN 2 DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
3 
Mae rheoliadau 4 i 9 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol â chymorth fel telerau atodol.
Defnydd o’r annedd
4 
Ni chaniateir i ddeiliad y contract gynnal neu ganiatáu unrhyw fasnach neu fusnes yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.
Meddianwyr a ganiateir nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid
5 
Caiff deiliad y contract ganiatáu i bobl nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid fyw yn yr annedd fel cartref.
Newidiadau i’r ddarpariaeth o gyfleustodau i’r annedd
6 

(1) Caiff deiliad y contract newid unrhyw un neu ragor o’r cyflenwyr i’r annedd o—
(a) gwasanaethau trydan, nwy neu danwydd arall, neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth);
(b) gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd, teledu cebl neu deledu lloeren.
(2) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newidiadau a wnaed yn unol â pharagraff (1).
(3) Oni bai bod y landlord yn cydsynio, ni chaniateir i ddeiliad y contract—
(a) gadael yr annedd, ar ddiwedd y contract meddiannaeth, heb gyflenwr trydan, nwy neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), oni bai nad oedd y cyfleustodau hyn yn bresennol yn yr annedd ar y dyddiad meddiannu;
(b) gosod neu dynnu, neu drefnu i osod neu dynnu, unrhyw osodiadau gwasanaeth penodedig yn yr annedd.
(4) At ddibenion paragraff (3)(b), ystyr “gosodiadau gwasanaeth penodedig” yw gosodiad ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) ar gyfer glanweithdra, gwresogi lle neu wresogi dŵr.
Diogelwch yr annedd
7 
Os yw deiliad y contract yn dod yn ymwybodol bod yr annedd, neu y bydd yr annedd, yn wag am 28 neu fwy o ddiwrnodau yn olynol, rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Rhwymedigaethau deiliad y contract pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben
8 
Pan fydd deiliad y contract yn gadael yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben, rhaid i ddeiliad y contract—
(a) symud o’r annedd yr holl eiddo sy’n berchen i—
(i) deiliad y contract, neu
(ii) unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd,
(b) dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar y dyddiad meddiannu, ac
(c) dychwelyd i’r landlord yr holl allweddi sy’n galluogi mynediad i’r annedd a ddaliwyd yn ystod cyfnod y contract gan ddeiliad y contract neu unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd.
Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben
9 
Rhaid i’r landlord ad-dalu, o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl i’r contract meddiannaeth ddod i ben, i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.
RHAN 3 DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
10 
Mae rheoliadau 11 i 16 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o saith mlynedd neu ragor a chontractau safonol â chymorth.
Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi
11 
Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.
Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall
12 
O fewn 14 o ddiwrnodau i gais gan ddeiliad y contract, rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract dderbynneb ysgrifenedig am unrhyw rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd o dan y contract meddiannaeth.
Gofalu am yr annedd
13 
Nid yw deiliad y contract yn atebol am draul resymol i’r annedd na gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ond—
(a) rhaid iddo gymryd gofal priodol o’r annedd, y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo,
(b) ni chaniateir iddo symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau nac unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo heb gydsyniad y landlord,
(c) rhaid iddo gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol, a
(d) ni chaniateir iddo gadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch i ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir, unrhyw bersonau sy’n ymweld â’r annedd neu unrhyw bersonau sy’n preswylio yng nghyffiniau’r annedd.
Atgyweiriadau
14 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano.
(2) Pan fo deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo, rhaid i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod rhesymol o amser, wneud atgyweiriadau i’r gosodiadau hynny a’r ffitiadau hynny neu’r eitemau eraill hynny a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.
(3) Mae’r amgylchiadau y mae paragraff (2) yn gymwys oddi tanynt yn cynnwys pan fo’r nam, y diffyg, y difrod neu’r adfeiliad wedi digwydd yn gyfan gwbl neu yn bennaf oherwydd gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal gan ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir neu unrhyw berson sy’n ymweld â’r annedd.
15 

(1) O dan amgylchiadau pan na fo deiliad y contract wedi gwneud yr atgyweiriadau hynny y mae ef yn gyfrifol amdanynt yn unol â rheoliad 14(2) a (3), caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud atgyweiriadau i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau eraill a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.
(2) Ond rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd o 24 awr o leiaf cyn mynd i’r annedd.
Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd
16 

(1) Os bydd argyfwng y bydd angen i’r landlord fynd i’r annedd heb rybudd o ganlyniad iddo, rhaid i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth.
(2) Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad yn syth, caiff y landlord fynd i’r annedd heb ganiatâd deiliad y contract.
(3) Os bydd y landlord yn mynd i’r annedd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r landlord wneud pob ymdrech resymol i hysbysu deiliad y contract ei fod wedi mynd i’r annedd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(4) At ddiben paragraff (1), mae argyfwng yn cynnwys—
(a) rhywbeth y mae angen gwneud gwaith brys o’i herwydd i atal yr annedd neu anheddau yn y cyffiniau rhag cael eu difrodi yn ddifrifol, eu difrodi ymhellach neu eu dinistrio, a
(b) rhywbeth a fyddai, pe nai bai’r landlord yn ymdrin ag ef yn syth, yn peri risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch deiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir o’r annedd, neu bersonau eraill yng nghyffiniau’r annedd.
RHAN 4 DARPARIAETH ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
17 
Mae rheoliad 18 yn nodi darpariaeth atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a chontractau safonol â chymorth.
Hysbysiad tynnu’n ôl gan gyd-ddeiliaid contract: terfyn amser
18 
Y cyfnod amser lleiaf rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 ac adran 130 o’r Ddeddf (cyd-ddeiliaid contract: tynnu’n ôl) i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yw un mis.
RHAN 5 DARPARIAETHAU ATODOL NAD YDYNT YN GYMWYS OND I GONTRACTAU DIOGEL, CONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG
19 
Mae rheoliadau 20 i 25 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau diogel, contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Meddiannu’r annedd
20 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref yn ystod cyfnod y contract meddiannaeth.
(2) Pan fo cyd-ddeiliaid contract, rhaid i un deiliad y contract o leiaf feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref yn ystod cyfnod y contract meddiannaeth.
Diogelwch yr annedd
21 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.
(2) Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu ddrysau mewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag oedd yn ei le yn flaenorol.
Atgyweirio’r annedd
22 
Os bydd deiliad y contract yn gwneud hysbysiad o dan y teler atodol a ymgorfforir yn y contract meddiannaeth yn unol â rheoliad 14(1), rhaid i’r landlord ymateb i ddeiliad y contract, gan gadarnhau—
(a) a yw’r landlord yn ystyried bod angen gwneud y gwaith atgyweirio,
(b) ai deiliad y contract neu’r landlord sy’n gyfrifol am y gwaith atgyweirio, ac
(c) os yw’r landlord yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio, pryd y bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud a’i gwblhau.
Strwythurau
23 
Ni chaniateir i ddeiliad y contract osod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.
Trosglwyddo
24 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract meddiannaeth os yw’r landlord yn cydsynio.
(2) Yn achos contractau diogel, nid yw paragraff (1) yn gymwys ond i drosglwyddiadau nad ydynt fel arall wedi eu cwmpasu gan adrannau 73 i 83 o’r Ddeddf (olynu).
Ymddygiad gwaharddedig
25 
Rhaid i’r landlord roi cyngor priodol i ddeiliad y contract os bydd deiliad y contract yn adrodd i’r landlord am unrhyw ymddygiad a waherddir o dan adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) o’r Ddeddf ar ran unrhyw un sy’n byw mewn eiddo sy’n berchen i’r landlord gan gynnwys eiddo a feddiannir gan ddeiliad y contract.
RHAN 6 DARPARIAETHAU ATODOL NAD YDYNT YN GYMWYS OND I GONTRACTAU SAFONOL OND NID I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL, CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
26 
Mae rheoliadau 27 i 31 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol heblaw contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.
Rhestr eiddo
27 

(1) Rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract restr eiddo mewn perthynas â’r annedd yn ddim hwyrach na’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract yn unol ag adran 31 (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf.
(2) Rhaid i’r rhestr eiddo nodi cynnwys yr annedd, gan gynnwys yr holl osodiadau a ffitiadau, a rhaid iddi ddisgrifio eu cyflwr fel yr oedd ar y dyddiad meddiannu.
(3) Os bydd deiliad y contract yn anghytuno â’r wybodaeth yn y rhestr eiddo, caiff deiliad y contract ddarparu sylwadau i’r landlord.
(4) Pan na fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, bernir bod y rhestr eiddo yn gywir.
(5) Pan fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, rhaid i’r landlord naill ai—
(a) diwygio’r rhestr eiddo yn unol â’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, neu
(b) hysbysu deiliad y contract na chytunir â’r sylwadau, ac ailanfon y rhestr eiddo wreiddiol at ddeiliad y contract, gyda’r sylwadau wedi eu hatodi, neu
(c) diwygio’r rhestr eiddo yn unol â rhai o’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, ynghyd â chofnod o’r sylwadau nas cytunwyd.
Rhoi hysbysiadau etc. i’r landlord
28 
Rhaid i ddeiliad y contract—
(a) cadw’n ddiogel unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill sy’n cael eu danfon i’r annedd wedi eu cyfeirio at y landlord yn benodol neu’r perchennog yn gyffredinol, a
(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi’r copïau gwreiddiol o unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill o’r fath i’r landlord.
Newidiadau i’r annedd
29 

(1) Ni chaniateir i ddeiliad y contract wneud unrhyw addasiad i’r annedd heb gydsyniad y landlord.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae ystyr “addasiad” yn cynnwys—
(a) unrhyw ychwanegiad at y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw addasiadau iddynt,
(b) gosod erial neu ddysgl lloeren,
(c) gosod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd, a
(d) gwneud gwaith i addurno’r annedd yn allanol.
Diogelwch yr annedd
30 

(1) Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.
(2) Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu ddrysau mewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag oedd yn ei le yn flaenorol.
(3) Os bydd angen allwedd newydd i gael mynediad i’r annedd neu unrhyw ran ohoni o ganlyniad i unrhyw newid a wneir o dan baragraff (2), rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a sicrhau bod copi sy’n gweithio o’r allwedd newydd ar gael i’r landlord.
Lletywyr
31 
Ni chaniateir i ddeiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr heb gydsyniad y landlord.
RHAN 7 DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR
32 
Mae rheoliad 33 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol cyfnod penodol o saith mlynedd neu fwy.
Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd
33 

(1) Os bydd argyfwng y bydd angen i’r landlord fynd i’r annedd heb rybudd o ganlyniad iddo, rhaid i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth.
(2) Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad yn syth, caiff y landlord fynd i’r annedd heb ganiatâd deiliad y contract.
(3) Os bydd y landlord yn mynd i’r annedd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r landlord wneud pob ymdrech resymol i hysbysu deiliad y contract ei fod wedi mynd i’r annedd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(4) At ddiben paragraff (1), mae argyfwng yn cynnwys—
(a) rhywbeth y mae angen gwneud gwaith brys o’i herwydd i atal yr annedd neu anheddau yn y cyffiniau rhag cael eu difrodi yn ddifrifol, eu difrodi ymhellach neu eu dinistrio, a
(b) rhywbeth a fyddai, pe nai bai’r landlord yn ymdrin ag ef yn syth, yn peri risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch deiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir o’r annedd, neu bersonau eraill yng nghyffiniau’r annedd.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022