
2022 Rhif 223 (Cy. 71) (C. 10)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2022
Gwnaed 4 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adrannau 147(4) a 148(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2022.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Mawrth 2022
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2022—
(a) adran 50 (rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru;
(b) adran 60 (gwastraff peryglus: Cymru a Lloegr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru;
(c) adran 64 (pwerau i godi tâl), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru;
(d) Atodlen 4 (rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru.
Darpariaeth arbed
3 
Er gwaethaf y ffaith bod adran 50(6) o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd rheoliad 2(a), sy’n diddymu adrannau 93 i 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 o ran Cymru, mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 yn parhau mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Atodlenni 4 a 6 i Ddeddf yr Amgylchedd 2021 i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2022